Cafodd adroddiad polisi diweddaraf ColegauCymru, “Creu Cymru Well – gwersi o Ewrop”, ei lansio yn y cyfarfod grŵp trawsbleidiol (CPG) AB a Sgiliau’r Dyfodol ar 24 Medi 2019.
Cyn y cyfarfod, roedd Cadeirydd y grŵp, John Griffiths AC, wedi tynnu sylw at bwysigrwydd yr adroddiad yn ystod cyfarfod lawn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 17 Medi.
Yn ystod y digwyddiad, clywodd y gynulleidfa sut mae'r adroddiad yn ceisio archwilio'r berthynas rhwng sgiliau lefel uwch a chydnerthedd economaidd, a sut y gall Cymru wneud y gorau o'r wybodaeth a'r profiad a rennir gan ein partneriaid mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Wrth i'r hinsawdd wleidyddol yn y DU, ac ar draws y byd ehangach, barhau i fod yn ansicr, mae materion cydnerthedd economaidd a sut i baratoi'n well ar gyfer ysgytwad economaidd yn bwysicach fyth.
Cyflwynwyd y canfyddiadau gan Dr Mark Lang, aelod blaenllaw o'r tîm ymchwil, ac yna ymatebodd aelodau'r panel i'r adroddiad a'r argymhellion, wedi dilyn gan drafodaeth gyda'r gynulleidfa. Dywedodd Sharon James, Is-bennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro,
“Un rhan yn unig o'r pos yw sgiliau lefel uwch - er mwyn creu economi gydnerth, mae angen sector sgiliau cryf iawn a chadarn arnom, sy'n datblygu sgiliau o lefel mynediad, hyd at lefel 7”.
Wrth ymateb ar ran y Cynulliad Cenedlaethol, dangosodd AC Blaenau Gwent AC, Alun Davies, sydd eisoes wedi dal nifer o swyddi Cabinet, gan gynnwys cyfnod hanfodol fel Gweinidog Addysg Bellach, ei gefnogaeth i'r adroddiad. Tynnodd sylw at bwysigrwydd cydweithrediad Ewropeaidd, a dysgu o arfer gorau. Wrth siarad â ColegauCymru, dywedodd Mr Davies
“Roeddwn i'n meddwl ei fod yn adroddiad rhagorol. Rwy'n credu mai un o'r pethau y mae'n rhaid i ni ei wneud yng Nghymru yw amlygu ein hunain yn gyson i brofiad a syniadau mewn mannau eraill, felly rydyn ni bob amser yn chwilio am gyfleoedd newydd i ddysgu gan bobl eraill - i ddysgu o lwyddiant, ond hefyd i ddysgu o bethau nad ydyn nhw wedi mynd cystal, rydyn ni'n deall yr hyn mae pobl eraill yn ei wneud ledled Ewrop”.
Dywedodd Dr Rachel Bowen, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Allanol,
“Roedd trafodaeth y grŵp trawsbleidiol ar ein hymchwil ‘Creu Cymru Well’ yn eang ac yn ddefnyddiol, gan gwmpasu popeth o rôl addysg uwch, sut i adlewyrchu llais dysgwr, datgarboneiddio a’r Gymru yr ydym am fod yn y dyfodol. Hoffem ddiolch i'r holl gyfranogwyr am eu cyfraniad ac annog pawb i ystyried sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i roi'r argymhellion yn yr adroddiad ar waith. Rydym hefyd yn ddiolchgar am gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd drwy grant EACEA i Bwyntiau Cyswllt Cenedlaethol EQAVET.”
Dilynwch @ColegauCymru er mwyn cael y newyddion diweddaraf o AB, dysgu yn y gweithle, a sgiliau.