Mae colegau addysg bellach ledled Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i helpu eu cymunedau yn y frwydr yn erbyn Coronavirus.
Mae Coleg Catholig Dewi Sant wedi rhoi ei gyflenwad o gogls diogelwch a menig tafladwy i'r bwrdd iechyd lleol gan ddarparu cefnogaeth ymarferol i'r GIG yn ystod argyfwng Covid19. Mae Adran Wyddoniaeth y Coleg hefyd wedi bod yn argraffu gorchuddion gwyneb amddiffynnol 3D ac mae'r rhain wedi'u rhoi i'r fferyllfa leol.
Mae nifer o staff cymorth iach a galluog nad ydynt ar hyn o bryd â’r gallu i gwblhau gwaith ar-lein ymhlith Gwirfoddolwyr y GIG, ac mae'r Coleg wedi annog unigolion i helpu lle bo hynny'n bosibl.
Mae'r Coleg wedi gweld cynnydd enfawr yn y teimlad o gymuned yn ystod yr amser anodd hwn. Mewn amodau digynsail, mae staff y Coleg wedi goresgyn rhwystrau trwy weithio gyda'i gilydd a gofalu am eraill. Mae grwpiau sgwrsio digidol wedi bod yn flaenoriaeth ac wedi darparu ffynhonnell werthfawr o gefnogaeth. Mae hyn yn mynd y tu hwnt i'r gweithle, gydag enghreifftiau o garedigrwydd yn cael eu harddangos wrth siopa ar gyfer y rhai sy’n hunanynysu, cefnogi unigolion ag aelodau sâl yn eu teulu, darparu cyngor ar sut i roi gwaed, a rhannu fideos a delweddau dyrchafol i hybu morâl.