Mae ColegauCymru Rhyngwladol yn falch o fod wedi sefydlu Grŵp Llywio newydd i ddatblygu, cefnogi a monitro strategaeth ryngwladol ar gyfer y sector addysg bellach. Bydd y strategaeth yn cefnogi cyfleoedd rhyngwladol i sefydliadau addysg bellach sy'n ehangu ac yn cyfoethogi profiadau addysgu a dysgu myfyrwyr a staff yn y sector.
Mae gan y Grŵp a sefydlwyd yn Hydref 2021 4 prif faes ffocws:
- Meithrin diwylliant o gydweithredu rhwng sefydliadau addysg bellach i ddatblygu prosiectau a gweithgareddau rhyngwladol strategol.
- Cefnogi datblygu sefydliadau addysg bellach, hyrwyddo a darparu cyfleoedd rhyngwladol i fyfyrwyr a staff yn eu cymunedau eu hunain.
- Rhannu arfer da ar draws y sector fel bod sefydliadau addysg bellach yn gallu symud ymlaen wrth ymgorffori dimensiwn rhyngwladol i brofiadau addysgu a dysgu yn y tymor byr, canolig a hir.
- Gwneud argymhellion a thrafod materion a phryderon yn Fforwm y Penaethiaid pan fo angen.
Dywedodd Sian Holleran, Rheolwr Prosiect ColegauCymru Rhyngwladol,
M"ae'r Grŵp hwn wedi'i gynllunio i gefnogi colegau i sicrhau bod gan bob dysgwr a staff yn y sector fynediad cyfartal i gyfleoedd rhyngwladol. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein rhaglen o astudio wedi’i hariannu, hyfforddiant a chyfleoedd gwaith tramor yn ogystal ag archwilio'r defnydd o offer cyfathrebu digidol i adeiladu partneriaethau newydd, ac i gryfhau’r rhai sy’n bodoli eisoes, yn fyd-eang."
Dan arweiniad Prif Swyddog Gweithredol a Phrifathro Dr Andrew Cornish Coleg Sir Gâr/Coleg Ceredigion, a gyda chynrychiolaeth o'n holl aelodau, bydd tymhorau'r Gwanwyn a'r Haf yn canolbwyntio ar:
- gefnogi'r sector addysg bellach i gyflwyno ceisiadau ar gyfer Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol i Gymru ar gyfer Dysgu a rhaglenni cyllido perthnasol eraill fel sy'n briodol;
- lansio Strategaeth Ryngwladol y sector addysg bellach;
- adolygu cyflawniadau'r sector addysg bellach wrth sicrhau cyllid ar gyfer Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol i Gymru ar gyfer Dysgu; a
- datblygu cynllun gwaith ar gyfer y Grŵp Rhyngwladol ar gyfer 2022/23.
Gwybodaeth Bellach
Cysylltwch â Rheolwr Prosiect ColegauCymru Rhyngwladol i gael mwy o wybodaeth.