Myfyrwyr Coleg Gwent yn elwa o brofiad gwaith gwerthfawr yn Ewrop

health and social erasmus days.png

Ers lansio Erasmus+ yn 2014, mae Coleg Gwent wedi bod yn gyfranogwr gweithredol ym mhrosiectau consortiwm Erasmus+ ColegauCymru. Mae'r coleg wedi cynyddu nifer y dysgwyr sy'n cymryd rhan yn y rhaglen yn raddol ac yn ein Prosiect 2020, mae ganddo dros 200 o ddysgwyr a fydd yn ymgymryd â phrofiadau gwaith dramor o ystod eang o feysydd pwnc gan gynnwys Gwasanaethau Cyhoeddus, Chwaraeon, Ffotograffiaeth, Rheoli Anifeiliaid a Theithio a Thwristiaeth.

Mae adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Coleg wedi bod yn arbennig o weithgar mewn prosiectau Erasmus+ ac, o ganlyniad, maent wedi adeiladu partneriaethau cryf â sefydliadau yn y Ffindir, Gwlad Pwyl a Sweden. Mae'r ymddiriedaeth a sefydlwyd rhwng y coleg a phartneriaid yn golygu bod y dysgwyr yn cael cyfle i ymgymryd â phrofiad gwaith 2 wythnos o ansawdd yn y gwledydd hyn, weithiau'n byw gyda theuluoedd sy'n cynnig mewnwelediadau ychwanegol i ddiwylliannau ac ieithoedd newydd. Mae'r profiadau hyn yn sicrhau bod y dysgu a gafwyd dramor yn cyfrannu at gyflawni cymwysterau yma yng Nghymru gyda thystiolaeth a datganiadau tyst yn cyfrannu tuag at bortffolios dysgwyr.
 
Soniodd un myfyriwr Gofal Plant Coleg Gwent am ei phrofiad yn byw ac yn gweithio yng Ngwlad Pwyl am bythefnos,

"Cefais brofiad o weithio mewn ysgol anghenion arbennig yng Ngwlad Pwyl, lle dysgais am y gwahaniaethau a'r tebygrwydd i ysgolion anghenion arbennig yng Nghymru. Rwyf wedi dysgu llawer am ddiwylliant Gwlad Pwyl a gobeithio y bydd y profiad gwaith yma’n cyfrannu’n gadarnhaol tuag at fy arfer dysgu yn gweithio gyda phlant yn y dyfodol."

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.