Y mis diwethaf, cynhaliwyd y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau Dysgwrdd gan Rwydwaith Addysgu a Dysgu ColegauCymru, a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer cydweithwyr yn y sectorau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith i rannu enghreifftiau o arfer da.
Mae'r digwyddiadau, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, hefyd yn cefnogi cyfnewid gwybodaeth ar draws y sector addysg bellach cyfan yng Nghymru.
Cynhaliwyd y digwyddiad egnïol cyntaf gan y siaradwr gwadd Nina Jackson o Independent Thinking. Mae gwaith Nina ym maes iechyd meddwl a lles wedi cael effaith ysgubol ar blant, athrawon a rhieni fel ei gilydd. Edrychodd ei sgwrs Pedagogy, Practice and the 4 Cs ar bwysigrwydd Cyfathrebu, Cydweithio, Creadigrwydd a gofal, a sut y gall darlithwyr ac addysgwyr barhau i ysbrydoli myfyrwyr i fod y gorau y gallant fod.
Cafwyd mewnbwn gwerthfawr pellach gan gydweithwyr ar draws rhanbarth De Ddwyrain Cymru, yn ymdrin ag ystod o bynciau addas ac amserol.
Roeddwn yn galonogol i weld y cyfraniadau a wnaed gan y siaradwyr ac egni'r cyfraniadau gan gynrychiolwyr. Rydym yn edrych ymlaen at y digwyddiad nesaf a fydd yn cael ei gynnal ym mis Rhagfyr.
A Wnaethoch Chi Golli'r Digwyddiad?
Os gwnaethoch chi golli'r digwyddiad byw, dyma gyfle i chi wylio eto!
Cyflwyniadau Teachmeet
Pedagogy, Practice and the 4 Cs Nina Jackson
Podcasting for teaching and learning Coleg Gwent
Invisible learning – engaging learners and developing core skills in everyday sessions Coleg y Cymoedd
Teaching and learning in Second Life Coleg Caerdydd a’r Fro
Interacting with learners online Y Coleg Merthyr Tudful
Tips and tricks on engaging learners Coleg Penybont
Use of modelling in Law to enhance learner understanding of assessment objectives Coleg Catholig Dewi Sant
Digwyddiad Nesaf
Bydd y digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal ar-lein ddydd Iau 2 Rhagfyr 2021, gyda manylion pellach i ddilyn. Cysylltwch â Lucy Hopkins i ychwanegu’ch enw at y rhestr wahoddiadau.