Yn ystod yr wythnos, mae'r elusen sy'n cynrychioli ac yn hyrwyddo buddion Addysg Bellach a'r sector dysgu yn y gweithle yng Nghymru yn dathlu'r cynnig prentisiaeth sydd wedi cyflawni cyfraddau llwyddiant uchel yn gyson uwch na 80%, ac wedi cefnogi miloedd o brentisiaid ac ystod o gyflogwyr ledled y wlad.
Mae'r rhwydwaith o 13 sefydliad AB yn gweithio mewn partneriaeth agos i ddarparu rhaglenni prentisiaeth o ansawdd uchel mewn ystod eang o feysydd galwedigaethol, o lefel sylfaen i brentisiaethau uwch. Gyda chysylltiadau cryf â diwydiant, a systemau cymorth sefydledig i ddysgwyr, mae'r sector AB mewn sefyllfa dda i gyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel yn y Rhaglen Lywodraethu gyfredol.
Mae'r rhaglen brentisiaeth yn elfen hanfodol o'r cynnig galwedigaethol AB sy'n cefnogi dysgu yn y coleg a darparu cefnogaeth ar gyfer sgiliau a chyflogadwyedd yn y gymuned.
Gan dynnu sylw at bwysigrwydd y system brentisiaethau i wleidyddion Cymru, gwnaeth Jack Sargeant AC ddatganiad 90 eiliad yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon. Meddai, “rhaid i brentisiaethau darparu’r sgiliau cyflogadwyedd a throsglwyddadwy sydd eu hangen ar gyfer bywyd gwaith, ac i reoli trawsnewidiadau gyrfa mewn marchnad lafur sy'n newid yn barhaus”.
Ychwanegodd Kelly Edwards, Cyfarwyddwr Datblygu ColegauCymru, “Mae gan y sector Addysg Bellach hanes cryf o ddarparu prentisiaethau ac mae wedi sefydlu partneriaethau effeithiol gyda cyflogwyr. Mae hyn wedi galluogi colegau AB i ymateb i alw lleol ac i ddarparu atebion busnes arloesol.”
“Mae’r system brentisiaethau yng Nghymru yn cefnogi busnesau Cymraeg i ddenu talent ac i gadw gweithlu medrus. Mae prentisiaid yn cynyddu eu potensial trwy ddysgu trwy waith, gyda chefnogaeth staff AB profiadol i ddatblygu'r sgiliau ehangach sydd eu hangen i lwyddo trwy gydol eu gyrfaoedd. Mae'r bartneriaeth rhwng cyflogwyr, colegau a dysgwyr yn sail i lwyddiant y rhaglen brentisiaeth”
Mae ymchwil a wnaed gan ColegauCymru, gyda chefnogaeth cyllid grant EACEA i EQAVET, yn dangos bod cydweithredu yn parhau i fod yn ganolog i lwyddiant ein system brentisiaeth. Mae gan golegau AB rôl hanfodol i'w chwarae wrth gryfhau gydnerthedd economaidd, adeiladu ar sylfeini cadarn gyda chyflogwyr lleol, ac agor llwybrau i gyflogaeth trwy gefnogi cymunedau amrywiol Cymru.