Bydd cefnogaeth ariannol ddigonol a pharhaus yn hanfodol er mwyn cefnogi pobl ifanc goresgyn pandemig Covid19

element5-digital-jCIMcOpFHig-unsplash.jpg

Rydym yn croesawu cyhoeddiad heddiw o adroddiad terfynol Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd Effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc. Mae'r adroddiad yn cydnabod bod pobl ifanc wedi cael eu heffeithio'n fwy nag unrhyw grŵp arall yn ystod y cyfnod anodd hwn. 
  
Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru, Guy Lacey,

“Wrth i ni ddechrau ar gyfnod o adferiad, rydym yn cydnabod bod y flwyddyn ddiwethaf wedi cael effaith negyddol sylweddol ar bobl ifanc o bob rhan o Gymru. Mae colegau addysg bellach wedi gweithio’n ddiflino dros y 12 mis diwethaf i sicrhau bod y gefnogaeth addysgu, dysgu a lles priodol wedi’i darparu, yn enwedig i’n dysgwyr bregus.” 

Wrth i'r Senedd bresennol ddirwyn i ben, mae'r adroddiad yn gwneud argymhellion ar gyfer mwy o ddarpariaeth iechyd meddwl a chorfforol ac mae croeso i hyn hefyd. Mae'r argymhellion yn adlewyrchu themâu allweddol yn ein Hargymhellion Polisi ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru. 
 
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru, Dr Rachel Bowen,

“Ein blaenoriaeth o hyd yw iechyd, diogelwch a dilyniant dysgwyr. Gyda chyllid a chefnogaeth ddigonol a pharhaus, gall y sector addysg bellach yng Nghymru fod yn offeryn gwerthfawr i helpu ein dysgwyr ôl-16 i ffynnu a llwyddo mewn byd ôl-Covid. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth nesaf Cymru yn canolbwyntio ar ddarparu addysg ac nid ar ad-drefnu strwythurol diangen a chostus yn y maes ôl-16.” 

Gorffennodd Mr Lacey,

“Rydym yn arbennig o ddiolchgar am y cyfraniad a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor, Lynne Neagle AS, sydd wedi hyrwyddo cau'r bwlch yn y ddarpariaeth rhwng ysgolion a cholegau, a'i ffocws diflino ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc.”


Gwybodaeth Bellach

Datganiad i'r Wasg Senedd Cymru 
Rhaid i lesiant plant a phobl ifanc fod yn ganolog i adferiad COVID-19 
24 Mawrth 2021 

Argymhellion Polisi ColegauCymru ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru 
Llwyddiant yn y Dyfodol: Argymhellion Polisi ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru Mewn Addysg Ôl-16, a Dysgu Gydol Oes i Gymru 
Mawrth 2021 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.