Rydym yn adlewyrchu ar gyfres Dysgwrdd sydd wedi gweld dros 25 o gyflwyniadau gan ddarlithwyr a gweithwyr proffesiynol yn rhannu arfer gorau ac awgrymiadau addysgu ymarferol gyda chydweithwyr yn y sectorau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith, gan gyrraedd 250 o staff coleg.
Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, cynlluniwyd cyfres Dysgwrdd Rhwydwaith Addysgu a Dysgu ColegauCymru i roi cyfle i gefnogi cyfnewid gwybodaeth, gyda 3 digwyddiad yn cael eu cynnal yn nhymor yr Hydref a’r Gwanwyn 2021/22. Roedd gan bob digwyddiad ffocws penodol, gan gynnwys Iechyd Meddwl a Lles, Addysgeg Safon Uwch, ac Ysbrydoli Addysgu Arloesol mewn Adeiladu addysg bellach.
Cadarnhaodd adborth positif a dderbyniwyd a niferoedd mawr o fynychwyr lwyddiant y digwyddiadau a aeth i’r afael â phynciau eang yn amrywio o addysgu dwyieithog, datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol, i ddefnyddio adborth amlsynhwyraidd a rheoli ymddygiad heriol yn yr ystafell ddosbarth.
Rydym yn hynod ddiolchgar i'r cyfraniadau a wnaed gan ein haelodau gan gynnwys Coleg Penybont, Coleg Caerdydd a'r Fro, Coleg Gwent, Coleg y Cymoedd, Coleg Catholig Dewi Sant, Y Coleg Merthyr Tudful, Grŵp Llandrillo Menai, Coleg Sir Gâr, Coleg Ceredigion, Grŵp Colegau NPTC, Coleg Gŵyr Abertawe a Choleg Sir Benfro.
Os fethoch chi unrhyw un o'r digwyddiadau, gallwch chi wylio eto!
Iechyd Meddwl a Lles mewn Addysg Bellach
Pedagogy, Practice and the 4 Cs - Communication, Collaboration, Creativity and Care
Addysgeg Safon Uwch
Arfer dda ac awgrymiadau addysgu a dysgu wedi'u targedu'n benodol at ddysgwyr Safon Uwch.
Ysbrydoli addysgu arloesol mewn Adeiladu Addysg Bellach
Addysgu a dysgu adeiladu mewn Addysg Bellach
Gwybodaeth Bellach
Am fwy o wybodaeth am waith Rhwydwaith Addysgu a Dysgu ColegauCymru, cysylltwch â’n Cyfarwyddwr Datblygu, Kelly Edwards.
kelly.edwards@colegaucymru.ac.uk