Gyda chyfraniadau gan weithwyr proffesiynol o bob rhan o Gymru a gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae ColegauCymru yn cyflwyno cyfres podlediad newydd #PodAddysgu. Mae’r gyfres yn cynnwys awgrymiadau byr addysgu a dysgu y gellir eu rhoi ar waith ar unwaith.
Mae'r sesiynau 10 munud hyn yn cynnig awgrymiadau addysgu a dysgu ymarferol ar gyfer darlithwyr addysg bellach ac addysgwyr dysgu seiliedig ar waith, cyfleoedd dysgu proffesiynol ac enghreifftiau o arfer gorau.
Mae'r podlediadau i gyd am ddim ac ar gael ar YouTube a byddant ar gael yn fuan ar Hwb trwy chwilio 'PodAddysgu'
Peidiwch ag anghofio tanysgrifio i #PodAddysgu fel nad ydych chi'n colli allan ar y bodlediad nesaf! Mae pob podlediad yn cynnwys un o bum prif thema. Byddwn yn ychwanegu dolenni at bob podlediad wrth iddynt gael eu rhyddhau. Dyma'r penodau y byddwn ni'n eu rhyddhau dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf:
Gwydnwch
- Developing resilience through active wellbeing Coleg Caerdydd a'r Fro
- Using Ted Ed talks in mental health education Coleg Cambria
- Jamboard: Collaborative learning Coleg Sir Gâr/Coleg Ceredigion
Digidol
- Defnyddio meddalwedd llais Mote i gefnogi dysgu ac addysgu Grŵp Llandrillo Menai
- Making use of screen recording software to support teaching and learning Grŵp Llandrillo Menai
- Technoleg ac adnoddau Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Streamyard: The easiest way to create professional live streams Coleg Penybont
- Defnyddio Comment Bank ar Google Classroom Coleg Sir Gâr/Coleg Ceredigion
- Effective and innovative use of the MS Teams chat feature Coleg y Cymoedd
Gwahaniaethu
- A big picture view of differentiation Coleg Gwent
- Supporting digital learners through differentiation Coleg Catholig Dewi Sant
- Striving for inclusion Coleg Sir Benfro
Addysgeg Safon Uwch
-
Impact of the 4 O’s Factor Y Coleg Merthyr Tudful
Dwyieithrwydd
- Cyflwyniad i Ddwyieithrwydd Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Trawsieithu Coleg Sir Gâr/Coleg Ceredigion
- Ymgorffori dwyieithrwydd mewn gwersi Coleg Sir Gâr/Coleg Ceredigion
Gwybodaeth Bellach
Gobeithio y cewch chi a'ch cydweithwyr werth yn y gyfres podlediad hon. Rydym yn croesawu cwestiynau ac adborth.
Os hoffech chi gysylltu, ebostiwch Lucy Hopkins neu Macsen Jones.