Ynghyd â Llywodraeth Cymru, roedd ColegauCymru yn falch o gynnal digwyddiad i ddathlu gwerth addysg a hyfforddiant galwedigaethol yng Nghymru yn gynharach heddiw.
Gwelodd campws Ynysfach ddysgwyr yn rhannu manylion eu taith ddysgu o BTEC hyd at brentisiaeth gradd. Clywsom hefyd gan y cyflogwyr Dŵr Cymru, Tenneco Walker a Bridewell a siaradodd am werth buddsoddi mewn dysgwyr i sicrhau llif parhaus o weithwyr medrus i mewn i ddiwydiant.
Clywsom ymhellach gan Cyber College Cymru. Gan weithio gyda chyflogwyr, mae hon yn rhaglen sy’n darparu cyfleoedd profiad gwaith ystyrlon ac yn galluogi dysgwyr i baratoi ar gyfer gyrfa mewn seiberddiogelwch.
Cynhaliwyd digwyddiad heddiw i gyd-fynd â chyhoeddiad yr wythnos hon o adroddiad a gomisiynwyd yn annibynnol, Adolygiad o Gymwysterau Galwedigaethol yng Nghymru. Mae’r adolygiad, sy’n cael ei arwain gan gyn bennaeth Coleg Sir Benfro Sharron Lusher, yn gwneud 33 o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill.
Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Sharron Lusher,
“Rwyf wedi gweld y gwahaniaeth y mae addysg a hyfforddiant galwedigaethol wedi’i wneud i fywydau cymaint o bobl. Rwy’n gobeithio y bydd yr adolygiad hwn yn gatalydd i godi amlygrwydd cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru ac yn annog pawb i ystyried addysg alwedigaethol wrth wneud penderfyniadau am eu dyfodol.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru David Hagendyk,
“Rydym yn croesawu’r adroddiad cynhwysfawr heddiw, ac yn diolch i Sharron Lusher am gadeirio’r adolygiad hwn. Mae’r adroddiad yn cydnabod yn gywir nifer o gryfderau ein system gymwysterau, a nawr yw’r cyfle i adeiladu ar yr hyn yr ydym wedi’i ddysgu hyd yn hyn.
Mae'r adroddiad yn argymell strategaeth genedlaethol sydd ei hangen ar frys. Bydd hyn yn cynnig cyfle i ni fynegi’n glir uchelgeisiau Cymru ar gyfer yr hyn y gall addysg a hyfforddiant galwedigaethol ei gyflawni i Gymru. Dylid gwneud cynnydd yma fel mater o frys, er mwyn inni allu nodi’r blaenoriaethau cywir ar gyfer y dyfodol, a rôl colegau wrth helpu i’w cyflawni.
Mae nifer o argymhellion yr adroddiad yn edrych ar fynd i’r afael â materion hir sefydlog sydd wedi’u hamlygu mewn adroddiadau blaenorol.
Mae ColegauCymru a cholegau ledled Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod ein cymwysterau galwedigaethol yn gweddu i anghenion cenedlaethau heddiw a’r dyfodol. Mae’n bryd gweithredu’n ystyrlon yn awr i ddarparu yr ateb sydd ei angen ar ddysgwyr a chyflogwyr fel ei gilydd.”
Gwybodaeth Bellach
Datganiad Cabinet Llywodraeth Cymru
Datganiad Ysgrifenedig: Adolygu Cymwysterau Galwedigaethol Cymru
11 Medi 2023
Adroddiad Llywodraeth Cymru
Adolygiad o gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru: adroddiad
11 Medi 2023
Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk