Y daith tuag at Gymru fwy cyfartal – cyfraniad ColegauCymru a cholegau Cymru

pexels-cottonbro-6344238.jpg

Yn 2022, sefydlodd ColegauCymru grŵp strategol newydd yn canolbwyntio ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, gan ddod â staff colegau ynghyd i drafod materion yn ymwneud â chydraddoldeb a chynhwysiant sy’n effeithio ar y sector addysg bellach. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r grŵp wedi ffynnu i fod yn ganolbwynt ar gyfer rhannu arfer newydd a gorau i helpu’r sector yng Nghymru i ddod yn leoldiad addysg fwy cyfartal a diogel.

Yma, mae Cadeirydd newydd y grŵp a Phennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Penybont, Viv Buckley, yn rhannu ei barn hyd yn hyn ar gyfraniad colegau i Gymru fwy cyfartal.

Cynllunio ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn nodi Saith Nod Llesiant i sicrhau bod pob corff cyhoeddus yng Nghymru yn ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau. Mae ymchwil a gyhoeddwyd eleni yn dangos cyfraniad colegau i bob un o’r saith nod, ac mae hyn yn cynnwys Cymru fwy cyfartal drwy greu,

“Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd).”

Mae colegau yng Nghymru wedi cofleidio ysbryd Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, ac yn gweithio i sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni ei botensial, gan gynnwys drwy lunio cynlluniau cydraddoldeb strategol sy’n gweithredu fel sail ar gyfer gwreiddio diwylliant o gydraddoldeb, lle caiff pawb eu trin yn gyfartal.

Cymryd camau ymarferol ar y daith i gydraddoldeb ac amrywiaeth

Yn gynnar yn 2024, rhoddodd Llywodraeth Cymru gyllid prosiect i ColegauCymru i gefnogi colegau i ddatblygu Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol ac Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb. Un o ganlyniadau allweddol y prosiect hwn yw gweledigaeth gyffredin ar gyfer cydraddoldeb i'r sector addysg bellach:

“Mae’r sector addysg bellach yng Nghymru yn credu bod gan bob dysgwr yr hawl i addysg o’r radd flaenaf, wedi’i chyflwyno mewn lleoliad diogel, amrywiol a chynhwysol, lle mae staff a dysgwyr yn cael eu hannog i lwyddo drwy fod yn ddilys iddyn nhw eu hunain.

Nid yw cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant  yn ymarfer ticio blychau – mae’n gyfrifoldeb ar bawb. Bydd y sector addysg bellach cyfan, o uwch arweinwyr, i staff cymorth, darlithwyr, a dysgwyr yn cael eu hysbrydoli i ddathlu’r gwahaniaethau rhwng pobl, gan gydnabod cryfderau a buddion cymdeithas amrywiol, gynhwysol.

Bydd colegau’n ymdrechu i ddod yn sefydliadau sy’n ystyriol o drawma, gan sicrhau bod dysgwyr yn teimlo’n ddiogel ac wedi’u grymuso i gyflawni. Mae’n hanfodol bod staff y coleg, o uwch arweinwyr i lawr, yn adlewyrchu amrywiaeth a phoblogaeth y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Fodd bynnag, ni fydd tynnu ar y gweithlu addysg bellach presennol yn unig yn mynd i’r afael â’r her sylweddol o adeiladu gweithlu mwy amrywiol. Felly, mae’r sector wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid allanol i gydnabod a meithrin y dalent sydd eisoes ar gael yn ein cymunedau, ac i annog mwy o bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i gychwyn ar yrfa mewn addysg bellach. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod rhaid i Medr roi’r dysgwr wrth galon y broses o wneud penderfyniadau drwy ganolbwyntio ar eu profiadau o’r system drydyddol a’u lles. Bydd hyn yn rhoi cyfle i lais y dysgwr ddylanwadu ar bolisïau ac arferion cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn Medr.

Yn olaf, mae’r sector addysg bellach yng Nghymru wedi ymrwymo i greu tegwch i bawb, trwy wreiddio cydraddoldeb ac amrywiaeth yn gyfannol ym mhob un o’i wasanaethau, ac yn ymdrechu i fynd ati’n barhaus i ymdrin â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn ffordd ragweithiol.”

Cydweithio fel sector i sicrhau newid

Y flwyddyn academaidd hon, bydd y Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn canolbwyntio ar brosiect cydweithredol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, i fynd i’r afael ag aflonyddu mewn addysg bellach. Daeth cydweithwyr at ei gilydd ym mis Mai 2024 i drafod iaith a diffiniadau a rennir ynghylch y termau a ddefnyddir gan ddysgwyr a staff wrth adrodd am aflonyddu. Roedd y syniadau a ddeilliodd o’r cyfarfod wedyn yn sail i’r trafodaethau yng nghynhadledd “Mynd i’r Afael â Cham-drin Cyfoedion” ar draws y sector, a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2024. Ers hynny mae ColegauCymru wedi llwyddo i sicrhau cyllid Llwybr 2 Taith i bartneru â Colleges and Institutrtes Canada (CICan) i sefydlu Cymuned Ymarfer rhwng colegau yng Nghymru a Chanada i fynd i’r afael â rhai o’r materion a godwyd yn adroddiad Estyn Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr 16-18 oed mewn colegau addysg bellach ledled Cymru. Nod y prosiect yw adeiladu Cymuned Ymarfer draws-wladol, a fydd yn dod â staff addysg bellach o Gymru a’n partner o Ganada, CICan, sydd â diddordeb cyffredin yn y maes hwn at ei gilydd, i rannu gwybodaeth, datblygu dysgu newydd, a choladu enghreifftiau o arfer gorau drwy astudiaethau achos.

Ledled Cymru, mae pob sefydliad addysg bellach wedi cytuno ar eu Cynlluniau Gweithredu Gwrth-hiliaeth eu hunain i gymryd agwedd ragweithiol at wrth-hiliaeth. Mae'r sector wedi datblygu adnoddau a rennir ar gyfer dysgwyr a staff sydd wedi arwain at gyflwyno hyfforddiant pwrpasol a datblygu cynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth sy'n benodol i bob coleg. Mae’r weledigaeth gyffredinol hon i ddileu hiliaeth mewn addysg bellach ac i hybu diddordebau ac amrywiaeth dysgwyr, yn dangos ymroddiad y sector addysg bellach i greu Cymru fwy cyfartal drwy fynd i’r afael ag anghysondebau a meithrin cynhwysiant. Er fy mod yn falch o'r daith y mae colegau wedi'i gwneud hyd yma tuag at ddod yn sefydliadau gwrth-hiliol, rwy'n cydnabod bod mwy i'w wneud.

Edrych ymlaen at y dyfodol

Edrychaf ymlaen at ymgymryd â rôl Cadeirydd y Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, a diolch i’m Cyd-Aelod Mike James, Coleg Caerdydd a’r Fro, am ei waith yn arwain y grŵp hyd yn hyn. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod pob dysgwr a staff yn profi nid yn unig cydraddoldeb, ond hefyd ecwiti o ran cyfle ac adnoddau fel y gall pawb gyrraedd eu llawn botensial.

Gwybodaeth Bellach

Viv Buckley, Pennaeth a Phrif Weithredwr, Coleg Penybont 

Mae Viv yn ymarferydd ac arweinydd addysgu medrus, ar ôl gweithio mewn sawl sefydliad ledled Cymru mewn rolau addysgu ac arwain ar draws addysg bellach ac uwch. Yn 2022, dyfarnwyd ‘Addysgwr Eithriadol’ i Viv yn uwchgynhadledd arweinyddiaeth Cyngres y Byd Ffederasiwn Colegau a Pholytechnig y Byd a gynhaliwyd yn Sbaen, cydnabyddiaeth ryngwladol o’i heffaith a’i gwaith yn y sector addysg ôl-16 ac yng Ngholeg Penybont. Roedd Viv hefyd ar restr fer Gwobrau Womenspire Chwarae Teg yn 2021 ac enillodd wobr Arwain Cymru am Arweinyddiaeth yn y Sector Cyhoeddus. Fe’i penodwyd yn Bennaeth a Phrif Weithredwr benywaidd cyntaf Coleg Penybont ym mis Medi 2023.

Grŵp Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ColegauCymru

Amy Evans, Swyddog Polisi 
Amy.Evans@ColegauCymru.ac.uk
 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.