Mae yna bryder yn y Senedd heddiw nad yw pobl ifanc na’u rhieni yn cydnabod y cydraddoldeb rhwng cyrsiau academaidd a galwedigaethol.
Yn ystod cwestiynau y Cyfarfod Llawn heddiw yn y Cynulliad Cenedlaethol, gofynnodd Nick Ramsay AC i’r Gweinidog Addysg, “Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan ddisgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4 fynediad at gyrsiau galwedigaethol?”
Wrth siarad yn y siambr, gofynnodd Nick Ramsay AC i’r Gweinidog ymhelaethu ar yr hyn mae hi’n wneud i sicrhau bod mwy o gyrsiau galwedigaethol ar gael mewn ysgolion a cholegau, a chyngor fwy effeithiol ynghylch gwerth llwybrau galwedigaethol i fyfyrwyr iau .
Mewn ymateb, cytunodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams AC,
“Mae mwy y gellir ei wneud i oresgyn canfyddiadau o werth cyrsiau galwedigaethol”, ac amlygodd sut mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn treialu dull newydd o roi cyngor ar wybodaeth i blant a bobl ifanc am werth cyrsiau galwedigaethol.
Dywedodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru,
“Mae ColegauCymru yn parhau i alw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y diwygiadau arfaethedig i addysg gyffredinol, y diwygiadau Donaldson fel y’u gelwir, yn cynnwys pwyslais cryf ar ganllawiau gyrfaoedd ac amlygiad i fyd gwaith.”
Gellir gwylio cwestiwn Nick Ramsay a'r ymateb gan y Gweinidog yma.