Tuag at Cymraeg 2050 - Cynllun Addysg Bellach a Phrentisiaethau

pexels-mikhail-nilov-9242844.jpg

Ymateb Ymgynghoriad

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: 4 Hydref 2024 

Roedd ColegauCymru yn ddiolchgar am y cyfle i ymateb i Gynllun Addysg Bellach a Phrentisiaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae ColegauCymru yn croesawu themâu'r strategaeth: profiad y dysgwr; capasiti staffio; darpariaeth; adnoddau; asesu a chymwysterau; ac mae ymgysylltiad â chyflogwyr. Rydym yn cydnabod blaenoriaethu pynciau, er y dylid nodi bod awydd o fewn y sector i golegau gael mwy o hyblygrwydd i ddiffinio eu meysydd pwnc blaenoriaeth eu hunain, gan weithio gyda Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol lle bo’n briodol - i adlewyrchu galw ac amgylchiadau lleol. O ystyried pwysigrwydd yr economi sylfaenol yng Nghymru, byddem yn croesawu ystyriaeth bellach o’r sectorau hyn.

O ran asesu yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog, mae angen mwy o waith i ddeall yn well y rhesymau sy’n llywio penderfyniadau dysgwyr wrth iddynt ddewis cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu drwy gyfrwng y Saesneg. Os ydym am gyrraedd y targed miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’n hanfodol mabwysiadu dull system addysg gyfan.

Gwybodaeth Bellach

Rachel Cable, Director of Policy and Public Affairs 
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk

 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.