Heddiw yn y Senedd, bydd aelodau’n trafod cysylltiadau addysg â chyflogwyr, gan nodi cyhoeddi adroddiad newydd ar bontio i fyd gwaith ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, Dave Hagendyk,
“Yn y pen draw, mae angen strategaeth addysg a hyfforddiant galwedigaethol cenedlaethol ar Gymru i gysylltu addysg a hyfforddiant galwedigaethol â’n blaenoriaethau economaidd a diwydiannol. Dylai fynegi athroniaeth Cymru ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol, gan gynnwys symud tuag at ganolbwyntio ar symud ymlaen i waith, sicrhau llais cryf i ddysgwyr a chyflogwyr, a chaniatáu i golegau fodloni blaenoriaethau lleol a rhanbarthol. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaid i gyflawni ein gweledigaeth o addysg bellach o safon fyd-eang i Gymru – ar gyfer ein dysgwyr, ein cymunedau, a’r economi.
“Rydym yn ddiolchgar i Hefin David AS am arwain y gwaith hwn sy’n canolbwyntio ar bontio i fyd gwaith. Mae’n iawn gydnabod rôl addysg o ran darparu’r sgiliau a’r hyfforddiant sydd eu hangen ar ddysgwyr i fynd i’r afael â gofynion yr economi. Dylid deall y gwaith hwn a’i argymhellion yng nghyd-destun ehangach sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, yn ogystal â gwaith yr Adolygiad o Gymwysterau Galwedigaethol sy’n cael ei arwain gan gyn Pennaeth Coleg Sir Benfro, Sharron Lusher.
“Rydym yn croesawu argymhellion yr adroddiad, yn enwedig y rhai sy’n helpu i ddatblygu llwybrau dilyniant galwedigaethol clir. Wrth galon y system rhaid bod ymrwymiad i adeiladu’r seilwaith, i ddarparu mynediad at lwybrau clir, dealladwy a hyblyg sy’n addas i ddysgwyr ar bob cam o’r system. Rhaid i hyn gael ei danategu gan hawl i gyngor ac arweiniad annibynnol o ansawdd uchel, yn enwedig ar adegau pontio allweddol mewn addysg a bywyd.”
Gwybodaeth Bellach
Adroddiad yn darparu argymhellion i wella profiadau dysgwyr wrth bontio i fyd gwaith
Pontio i fyd gwaith
Dr Hefin David AS
Mehefin 2023
Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk