Yn dilyn gorchfygiad neithiwr o’r mesur a fyddai wedi ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU geisio negodi aelodaeth lawn barhaus o raglen addysg ac ieuenctid Erasmus+ yr UE, mae ColegauCymru yn bryderus iawn am yr effaith ar ddysgwyr yng Nghymru.
Mae elfen alwedigaethol Erasmus+ yn galluogi dysgwyr a phrentisiaid i dreulio pythefnos ar leoliad gwaith yng ngwledydd Ewrop. Amrywiai cyfleoedd o arlwyo a pheirianneg i gynorthwyo mewn cysegr morloi. Collodd Gweinidogion y DU gyfle i roi sicrwydd i fuddiolwyr Erasmus+ Cymru y bydd y profiadau dysgu cyfoethog hyn yn parhau i fod ar gael i bobl ifanc yn y dyfodol.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, Iestyn Davies
“Rwy’n siomedig gan y penderfyniad i ddiystyru ceisio aelodaeth lawn barhaus o gynllun Erasmus+. Yn ei hanfod, mae hyn yn rhwystro dysgwyr a myfyrwyr addysg bellach rhag cymryd rhan mewn rhaglen a gydnabyddir yn rhyngwladol. Hyd yn hyn mae prosiectau Erasmus+ ColegauCymru wedi galluogi bron i 2000 bobl ifanc o bob rhan o Gymru, i elwa o’r cyfleoedd hyn sy’n newid bywydau. Mae eu gwadu i genedlaethau'r dyfodol yn drasiedi wirioneddol ac yn gwrth-ddweud unrhyw ymdeimlad o “Brydain Fyd-eang”.
“Rwy’n ceisio cael cyfarfod brys gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, i ddeall yn union pam ei fod ef a’i gydweithwyr yn teimlo na allant gefnogi dysgwyr o Gymru i barhau i gael mynediad at leoliadau gwaith galwedigaethol yn Ewrop. Byddwn hefyd eisiau gwybod pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth y DU i gynnig cynllun amgen a fydd yn cyfateb i lefel y cyllid y mae ColegauCymru wedi'i gyrchu gan Erasmus+ ar gyfer dysgwyr yng Nghymru - yn agos at € 5m ers lansio Erasmus+ yn 2014.
“Wrth i ni ddechrau degawd newydd, rhaid peidio anfanteisio cenedlaethau o ddysgwyr o Gymru yn y dyfodol. Bydd penderfyniadau a wneir nawr yn effeithio ar ein dysgwyr yn y degawdau i ddod.”