Cafodd sector dysgu seiliedig ar waith Cymru ei ddathlu neithiwr yng Ngwobrau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru 2021. Cydnabuwyd y seremoni, a gynhaliwyd yn rhithiol am y tro cyntaf, dysgwyr ysbrydoledig, cyflogwyr llwyddiannus ac ymarferwyr ymroddedig.
Enillodd aelodau ColegauCymru wobrau mewn chwech o’r 12 categori gan gynnwys Prentis Sylfaen y Flwyddyn, Prentis y Flwyddyn, Prentis Uwch y Flwyddyn a Doniau Yfory. Cafwyd enillion hefyd ar gyfer pob un o'r 3 chategori Cyflogwr y Flwyddyn.
Dywedodd Dr Barry Walters, Pennaeth Coleg Sir Benfro, sy’n cadeirio Grŵp Strategol Dysgu Seiliedig ar Waith ColegauCymru,
“Rydym yn anfon ein llongyfarchiadau cynhesaf at yr holl enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol. Mae Gwobrau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru yn gydnabyddiaeth i'w chroesawu o werth rhaglenni prentisiaeth yma yng Nghymru. Wrth i ni ddod allan o gyfnod arbennig o heriol, rydyn ni wrth ein bodd bod gwaith caled dysgwyr, ymarferwyr a busnesau fel ei gilydd yn cael y gydnabyddiaeth y maen nhw mor haeddiannol ohoni.”
Roedd y digwyddiad blynyddol yn arddangos doniau 35 o gystadleuwyr yn y rownd derfynol sydd wedi rhagori ar Raglenni Prentisiaeth a Hyfforddiaeth Llywodraeth Cymru yn ystod blwyddyn anodd a digynsail. Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop, mae Rhaglen Prentisiaeth Cymru wedi bod o fudd i filoedd o ddysgwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Ychwanegodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru,
“Ochr yn ochr â rhaglenni colegau addysg bellach, mae prentisiaethau yn rhan hanfodol o adferiad economaidd a ffyniant Cymru mewn byd ôl-Covid. Mae'n galonogol gweld rhaglenni dysgu yn y gwaith yn cael eu dathlu fel hyn.”
Enillwyr ColegauCymru
Prentis Sylfaen y Flwyddyn
Bethany Mason, Coleg y Cymoedd
Prentis y Flwyddyn
William Davies, Coleg Penybont
Doniau Yfory
Sophie Williams, Coleg y Cymoedd
Cyflogwr Bach y Flwyddyn
Compact Orbital Gears Ltd, Grŵp Colegau NPTC
Cyflogwr Canolig y Flwyddyn
Convey Law, Coleg Caerdydd a’r Fro
Cyflogwr Mawr y Flwyddyn
Aspire Blaenau Gwent a Merthyr Tudful, Coleg y Cymoedd yn gysylltiedig â Coleg Gwent a Choleg Merthyr Tudful