Cystadleuaeth codi pwysau yn cynnig cyfleoedd newydd i ddysgwyr coleg

CYC competing1.jpg

Roedd ColegauCymru yn falch o gynnal y gystadleuaeth codi pwysau “Power Up” bersonol gyntaf yng Ngholeg Sir Gâr ar 5 Mehefin 2024.  

Daeth dysgwyr o Goleg Sir Gâr a Choleg y Cymoedd ynghyd i gystadlu yn y digwyddiad cyntaf wyneb yn wyneb hwn, a gefnogwyd gan Codi Pwysau Cymru.

Meddai Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Lles Actif a Chwaraeon ColegauCymru,  

“Mae Power Up Addysg Bellach wedi’i gynllunio i roi cyfle i ddysgwyr coleg gystadlu mewn her sy’n seiliedig ar gryfderau wrth ddatblygu techneg well yn y broses. Roedd yn wych gweld y digwyddiad wyneb yn wyneb cyntaf yn cynnwys cymaint o gyfranogwyr sy’n newydd i’r gamp o godi pwysau yn cystadlu ochr yn ochr â chodwyr mwy sefydledig.” 

Mae codi pwysau yn gamp twf, yn enwedig i fenywod a merched, gyda digwyddiadau fel y rhain yn rhoi cyfle i ddysgwyr roi cynnig ar rywbeth newydd a’u hamlygu i hyfforddiant lefel uchaf yn y broses. 

Mae ColegauCymru yn ddiolchgar i Codi Pwysau Cymru ac Academi Codi Pwysau Llanelli am gefnogi’r digwyddiad ac am gynnal gweithdy cyn y gystadleuaeth, gan rannu cyngor a mewnwelediad ar dechneg ar gyfer cystadleuaeth. Mae Codi Pwysau Cymru yn hybu iechyd, lles a ffitrwydd trwy hyfforddiant cryfder, sy’n cyd-fynd yn agos â Strategaeth Lles Actif ColegauCymru. 

Ychwanegodd Stephen Williams, Darlithydd Chwaraeon Coleg Sir Gâr, 

“Yn dilyn cystadleuaeth rithiol yn ystod cyfnod clo Covid19, roedd yn wych gweld dysgwyr coleg ac athletwyr yn dod ynghyd i gystadlu wyneb yn wyneb. Rydym yn edrych ymlaen at sefydlu digwyddiadau codi pwysau ar galendr chwaraeon colegau yng Nghymru, wrth i raglenni codi, a chryfder a chyflyru, a’r gamp o godi pwysau ei hun barhau i dyfu.”  

Ychwanegodd Rob ymhellach, 

“Rydym yn edrych ymlaen at weld y gystadleuaeth yn dod yn ddigwyddiad rheolaidd yn y calendr addysg bellach, gyda chynlluniau i ehangu i ddigwyddiadau rhanbarthol eraill. Diolch i Codi Pwysau Cymru am gymorth technegol ac i Gampws y Graig Coleg Sir Gâr am ein cynnal yn eu cyfleusterau newydd anhygoel, Y Ffowndri.”  

 

 

Gwybodaeth Bellach 

Strategaeth Lles Actif ColegauCymru
2020 - 2024

Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Lles Actif a Chwaraeon  
Rob.Baynham@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.