Mae ColegauCymru heddiw wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i gynyddu’r trothwy incwm ar gyfer y Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Disgwylir i’r newid hwn fod o fudd i tua 3,500 o ddysgwyr ôl-16 ychwanegol ledled Cymru, gan alluogi mwy i gael cymorth ariannol ar gyfer eu haddysg bellach.
Mae’r LCA yn grant wythnosol o £40 sydd wedi’i gynllunio i gynorthwyo pobl ifanc 16 i 18 oed o gartrefi cymwys gyda chostau sy’n gysylltiedig ag addysg, fel cludiant a phrydau bwyd. Gyda’r trothwy uwch, bydd teuluoedd ag incwm cartref o £23,400 neu lai (ar gyfer y rheini ag un plentyn dibynnol) a £25,974 neu lai (ar gyfer y rheini â dau ddibynnydd neu fwy) bellach yn gymwys ar gyfer y cymorth hwn.
Mae'r gwelliant hwn i'r cynllun LCA yn adlewyrchu cam cadarnhaol tuag at fwy o degwch addysgol yng Nghymru, gan sicrhau nad yw rhwystrau ariannol yn rhwystro dyheadau pobl ifanc.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,
"Rydym yn falch o benderfyniad Llywodraeth Cymru i godi trothwy incwm y LCA. Bydd y newid hwn yn darparu cymorth hanfodol i filoedd yn fwy o ddysgwyr, gan eu helpu i barhau â'u taith addysg wrth helpu i leddfu rhywfaint o faich ychwanegol y cyfyngiadau ariannol.
Mae ColegauCymru yn credu bod gan bob dysgwr yr hawl i addysg o safon fyd-eang. Mae’r datblygiad hwn yn tanlinellu ein hymrwymiad ar y cyd i ehangu mynediad i addysg a sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru yn cael y cyfle i gyrraedd ei botensial a llwyddo.”
Gwybodaeth Bellach
Datganiad i'r Wasg Llywodraeth Cymru
Miloedd yn rhagor o ddysgwyr yn gymwyth i dderbyn cymorth ariannol drwy'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg
27 Ionawr 2025