Gyda phoblogrwydd pêl-droed merched yn uwch nag erioed a thîm hŷn merched Cymru yn paratoi ar gyfer Ewros 2025 yn y Swistir yn ddiweddarach eleni, mae colegau Addysg Bellach Cymru yn chwarae rhan hanfodol yn datblygu’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr dawnus.
Bydd Carfan Pêl-droed Merched Colegau Cymru yn teithio i Rufain ar ddechrau mis Mawrth i gystadlu yn nhwrnamaint mawreddog Roma Caput Mundi. Gan gystadlu ar lefel dan 23, bydd y tîm yn wynebu timau cynrychioliadol o Ganada, Montenegro, a Lloegr yn y cymalau pŵl, gan ymuno â thimau eraill o garfanau rhanbarthol UDA, Canada, yr Wcrain a’r Eidal.
Mae'r twrnamaint yn addo amserlen brysur a chyffrous, gyda thair gêm mewn pedwar diwrnod yn unig. Ochr yn ochr â phêl-droed, bydd chwaraewyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ymweliadau diwylliannol, gan gyfoethogi eu profiad rhyngwladol. Mae'r ymweliad yn cael ei ariannu'n rhannol gan Bwyllgor Rhanbarthol Lazio, gan sicrhau y gall chwaraewyr na fyddent efallai wedi cael y cyfle fel arall gymryd rhan yn y profiad anhygoel hwn.
Meddai Rheolwr Prosiect Lles Actif a Chwaraeon ColegauCymru, Rob Baynham
“Mae hwn yn gyfle gwych i’n chwaraewyr ennill profiad rhyngwladol a phrofi eu hunain yn erbyn cystadleuaeth lefel uchel. Bydd yr amlygiad i wahanol arddulliau chwarae a dwyster pêl-droed twrnamaint yn amhrisiadwy ar gyfer eu datblygiad.”
Bydd y garfan yn cael ei harwain gan y Rheolwr Tîm Sean Regan (Coleg Cambria) a’r Prif Hyfforddwr Claire O’Sullivan (Coleg y Cymoedd). Mae chwaraewyr wedi’u dewis o bob rhan o Gymru, gyda’r garfan derfynol wedi’i dewis yn dilyn treialon a gemau cynhesu yn erbyn Merched Pontypridd a Cholegau Lloegr.
Carfan Pêl-droed Merched Colegau Cymru 2024
- Molly France Coleg Cambria
- Hannah Slack Coleg Cambria
- Alisha Whitehead Coleg Cambria
- Erin Harris Coleg Caerdydd a'r Fro
- Katie Rowles Coleg Caerdydd a'r Fro
- Quianna Wheeler Coleg y Cymoedd
- Paige Parsons Coleg y Cymoedd
- Ruby Medcraft Coleg y Cymoedd
- Maddison Coles Coleg Caerdydd a'r Fro
- Ward Paige Coleg y Cymoedd
- Aimee Deacon Coleg Catholig Dewi Sant
- Lucy Coles Coleg Catholig Dewi Sant
- Sienna Stone Coleg Catholig Dewi Sant
- Charlotte Smith Coleg Gwent
- Megan Gladwyn Coleg Gwent
- Ffion Evans Coleg Gwent
- Phoebe Ellis Grŵp Llandrillo Menai
- Lauren Payne Coleg y Cymoedd
- Ruby James Coleg y Cymoedd
- Catrin Edwards Coleg y Cymoedd
Gan ddymuno pob lwc i'r garfan wrth iddynt ymgymryd â'r her yn Rhufain!
Gwybodaeth Bellach
Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Lles Actif a Chwaraeon
Rob.Baynham@ColegauCymru.ac.uk