Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan fydd pobl ifanc o bob rhan o’r DU yn ymgynnull yn NEC Birmingham i brofi eu sgiliau, gan gystadlu yn erbyn ei gilydd ar y llwyfan cenedlaethol am le yn Rownd Derfynol WorldSkills.
Mae'r 109 a gyrhaeddodd y rownd derfynol o Gymru yn dilyn ôl troed y saith person ifanc a gynrychiolodd Team UK yn WorldSkills Kazan 2019. Roedd Cymru yn cynrychioli 19% o Team UK, y gyfran uchaf hyd yn hyn, ac wedi dychwelyd adref gyda medal Efydd, a phum Medal Ragoriaeth, sef arwydd o lwyddiant o'r radd flaenaf.
Mae cefnogaeth barhaus y colegau yn sicrhau bod Cymru’n cynhyrchu tîm cryf a thalentog pob blwyddyn, ac mae eu hymrwymiad i gydweithio yn sicrhau cynrychiolaeth Cymru ar Team UK.
Mae WorldSkills Live UK nid yn unig yn gystadleuaeth, mae hefyd yn gyfle i fusnesau a sefydliadau ledled y DU arddangos cyfleoedd gyrfa a darparu profiadau ymarferol, sy'n ysbrydoli pobl ifanc i archwilio addysg bellach, sgiliau a phrentisiaethau. Bydd presenoldeb Cymru yn cael ei gynrychioli mewn partneriaeth â ColegauCymru, NTfW, a Llywodraeth Cymru. Bydd y digwyddiad hefyd yn gyfle i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn gweithgareddau “troi eich llaw” sy'n anelu at ysgogi ac ysbrydoli.
Dywedodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru,
“Mae'n wych gweld cymaint o bobl ifanc o Gymru yn cymryd rhan yn WorldSkills UK Live eleni. Codir y safonau pob blwyddyn, ac mae'n dyst i’r sector Addysg Bellach yng Nghymru sy'n cynhyrchu'r unigolion talentog hyn, a fydd yn dod yn weithlu'r dyfodol.
Parhaodd, “Wrth edrych ar sgiliau ar gyfer y dyfodol, mae'n galonogol gweld cystadlaethau mewn meysydd fel seiberddiogelwch ac electroneg ddiwydiannol yn ennill momentwm, gan fod y sector Addysg Bellach yng Nghymru yn awyddus i gwrdd â’r heriau a nodwyd yn adroddiad diweddar Lywodraeth Cymru, Cymru. 4.0. Mae gwledydd eraill ledled Ewrop yn buddsoddi'n helaeth mewn datblygu sgiliau ac mae angen i ni sicrhau ein bod ni'n cadw i fyny. Pob lwc i Dîm Cymru!”