Cadeirydd Polisi FSB Cymru yw Ben Francis. Mae e hefyd yn Gyfarwyddwr cwmni adeiladu tai teuluol, Hygrove Homes, Abertawe. Yma mae'n trafod pwysigrwydd gweithlu medrus i fusnesau bach a chanolig Cymru a'r angen am addysg ôl-orfodol dda i sicrhau dyfodol economaidd a chymdeithasol llewyrchus i Gymru.
Mae tua dau trydydd o weithlu'r sector preifat yng Nghymru yn cael eu cyflogi gan fusnesau bach a chanolig - oddeutu 738,000 o bobl yng Nghymru. Mae pob un o'r cyflogwyr hynny yn y sector preifat yn ceisio recriwtio gweithwyr sydd â'r sgiliau cywir, ac mae ganddyn nhw ran enfawr yn y ffordd rydyn ni'n datblygu sylfaen sgiliau cryf yng Nghymru.
Mae pandemig Coronafeirws wedi creu uniongyrchedd hollol newydd i'r sgyrsiau a gawn am sgiliau yng Nghymru. Gyda'r symudiad enfawr i weithio gartref yn ystod y misoedd diwethaf - a gyda llawer o gwmnïau'n cynllunio symudiad mwy parhaol i weithio o bell ar ryw ffurf - rydym yn gwybod y bydd sgiliau digidol yn dod yn fwy pwysig i unigolion a busnesau ledled y wlad.
Mewn gweminar FSB diweddar ar ddarparu sgiliau yng Nghymru, bu panelwyr yn trafod effaith y pandemig ar y dirwedd sgiliau, ynghyd â myfyrio ar anghenion sgiliau presennol busnesau Cymru. Efallai y bydd angen i bobl ailsgilio a symud allan o sector y maent wedi treulio cryn dipyn o amser yn gweithio ynddo oherwydd effaith y pandemig ar eu diwydiant. Mae pobl ifanc sy'n gadael yr ysgol neu'r coleg eleni yn edrych ar yrfa 50 mlynedd, a dim ond yn y blynyddoedd i ddod y gallwn ni ddechrau dychmygu sut y bydd yr yrfa honno'n newid. Mae hyn yn peri cwestiwn enfawr i Lywodraeth Cymru’r dyfodol ei hateb.
Gydag etholiad y Senedd bellach ddim ond ychydig fisoedd i ffwrdd, mae yna gyfle i’r Llywodraeth Cymru nesaf ailosod y sgwrs ar addysg a hyfforddiant ôl-orfodol gyda ffocws ar y canlyniadau economaidd a chymdeithasol yr ydym am eu cyflawni, a sut y gall y sectorau cyhoeddus a phreifat weithio gyda'i gilydd i gyflawni hyn.
Yn FSB credwn fod hyn yn dechrau gydag ysgolion. Rydyn ni wedi galw ar i Lywodraeth Cymru ddatgloi’r Uchelgais Genedlaethol y tu ôl i economi Cymru a datblygu’r cysylltiadau rhwng busnesau ac ysgolion. Dylai fod yr un mor naturiol i fyfyriwr ystyried cychwyn busnes ag ydyw iddynt feddwl am addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth draddodiadol. Os gwnawn hyn, yna rydym yn annog athrawon a disgyblion i feddwl am sgiliau ehangach, ac rydym yn datblygu’r genhedlaeth nesaf o unigolion sydd â'r sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen ar gyfer ystod gyfan o gyfleoedd cyflogaeth a hunangyflogaeth.
Yn ystod y pandemig, clywodd FSB gan fusnesau sy'n teimlo bod y syniad traddodiadol o gynllun pum mlynedd wedi'i bwrw o’r neilltu’n llwyr. Yn ein hadroddiad A Skilful Wales, gwnaethom dynnu sylw at y ffaith mai dim ond traean o fusnesau bach a chanolig oedd â chynllun hyfforddiant ffurfiol a dim ond pumed sydd â chyllideb wedi'i dyrannu’n benodol ar gyfer hyfforddiant. Bydd parhad y pademig ond yn gwaethygu’r sefyllfa hon.
Rydym hefyd yn poeni am addysg drwy brofiad sy'n cael ei golli trwy'r pandemig - mae profiad gwaith bron wedi'i ddileu ar gyfer eleni, a bydd hyn yn cael effaith fawr ar lefelau sgiliau disgyblion a dysgwyr ôl-16 yn y blynyddoedd i ddod. Hoffem weld darparwyr Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn gweithio gyda'r sector preifat i feddwl yn arloesol am sut y gallwn lenwi'r bylchau hyn orau ag y gallwn, i helpu i baratoi pobl gyda'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnynt i ddechrau eu gyrfa.
Mae'r ddau gwestiwn sy'n parhau i gysgodi dirwedd sgiliau Cymru ar gyfer y blynyddoedd i ddod yn ymwneud â sut rydym yn gweithredu yn y tymor byr i liniaru effaith pandemig Coronavirus, ynghyd â chwestiwn mwy hirdymor ynglŷn â sut rydym yn datblygu'r sgiliau y bydd eu hangen arnom i gyd yn y dyfodol. Mae'r rhain yn gwestiynau gwahanol a chymhleth iawn i’r Llywodraeth Cymru nesaf, ac mae'r FSB yn edrych ymlaen at weithio gyda hwy, darparwyr a busnesau i ddechrau eu hateb.