Mae ColegauCymru wedi croesawu canfyddiadau Gwerthusiad Rhaglen Gaeaf Llawn Lles Llywodraeth Cymru, a gynlluniwyd i gefnogi plant a phobl ifanc i adfer yn sgil effeithiau negyddol pandemig Covid-19.
Amlygodd yr adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2023, fod pecyn cyllid gwerth £20m gan Lywodraeth Cymru ar gael i gefnogi unigolion o 0 i 25 oed yng Nghymru i gael mynediad i weithgareddau am ddim. Roedd hyn yn cynnwys cyfleoedd i chwarae a chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, chwaraeon a diwylliannol, yn ogystal â gofal plant ac addysg ffurfiol.
Dyrannwyd £1.2m o’r cyllid hwn i’r sector addysg bellach o dan y Cynllun Adnewyddu a Diwygio, lle aeth £1m yn uniongyrchol i golegau ar gyfer gweithgareddau hamdden, diwylliannol a lles ehangach. Darparwyd £200k ychwanegol drwy Chwaraeon Cymru i gefnogi uwchsgilio dysgwyr chwaraeon a gweithgareddau awyr agored ar gyfer y grwpiau hynny yr effeithir arnynt fwyaf gan y pandemig. Mae gweithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau newydd a grëwyd yn ystod y rhaglen wedi parhau mewn colegau gan gynnwys yr Her Awyr Agored addysg bellach, a leolir yn y Rock UK Summit Centre yn Nhrelewis. Darparodd y digwyddiad hwn ar ei ben ei hun i ddysgwyr o 11 coleg eu profiad cyntaf o weithgareddau awyr agored ac mae bellach yn parhau yn ei ail flwyddyn.
Meddai Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Chwaraeon a Lles Actif ColegauCymru,
“Roedd ColegauCymru yn falch o weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddwyn ffrwyth y Rhaglen Gaeaf Llawn Lles. Mae’r Rhaglen, sy’n cyd-fynd yn agos â Strategaeth Lles Actif ColegauCymru, wedi caniatáu i’r sector hyrwyddo lles corfforol, meddyliol ac emosiynol trwy fwy o fynediad at weithgareddau creadigol, chwaraeon a diwylliannol.”
“Gan weithio gyda phartneriaid gan gynnwys Chwaraeon Cymru a’r Bartneriaeth Awyr Agored, roeddem yn gallu hwyluso amrywiaeth o ddigwyddiadau awyr agored gwych yn amrywio o ganŵio, adeiladu rafftiau a dringo dan do, i ddeuathlon. Roedd y gweithgareddau cynhwysol hyn yn canolbwyntio’n arbennig ar gefnogi’r grwpiau mwyaf difreintiedig a oedd fwyaf tebygol o fod wedi cael eu heffeithio’n andwyol gan y pandemig.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,
“Mae iechyd meddwl a lles gweithredol yn parhau i fod yn uchel ar agenda’r sector addysg bellach yma yng Nghymru, yn enwedig wrth i ni barhau i adfer yn sgil effeithiau’r pandemig. Rydym yn ddiolchgar bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd hyn, i’n dysgwyr a’n staff, ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar y sylfaen gadarnhaol hon.”
Mae ColegauCymru, ar ran y sector addysg bellach, wedi ymrwymo i sicrhau bod iechyd a lles gweithredol yn cael eu hariannu’n ddigonol ac yn parhau i fod ar flaen agenda pob coleg. Bydd hyn yn sicrhau bod ein colegau yn parhau i fod yn lleoedd hapus ac iach i astudio a gweithio ynddynt.
Gwybodaeth bellach
Ymchwil Llywodraeth Cymru
Gwerthusiad o Gaeaf Llawn Lles
27 Ionawr 2023
Strategaeth Lles A ColegauCymru
2020 - 2025
Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Chwaraeon a Llesiant EgnïolActif ColegauCymru
Rob.Baynham@ColeguaCymru.ac.uk