Cynhadledd Flynyddol ColegauCymru 2025

24-10-24-Cynhadledd_Colegau_Cymru__008.jpg

Ymunwch â Ni’r Hydref Hwn!

Mae ColegauCymru yn falch iawn o gadarnhau y bydd ein Cynhadledd Flynyddol yn dychwelyd ddydd Iau 23 Hydref 2025, a gynhelir unwaith eto yn Stadiwm Dinas Caerdydd. 

Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai Agored Cymru yw’r Prif Noddwr ar gyfer y digwyddiad eleni, ac mae’n anrhydedd croesawu’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells AS, a fydd yn traddodi’r prif anerchiad. Bydd y gefnogaeth a’r mewnwelediadau a rennir yn y Gynhadledd yn helpu i lunio’r hyn sy’n argoeli i fod yn drafodaeth werthfawr a blaengar ar ddyfodol addysg bellach yng Nghymru.

Bydd y Gynhadledd yn dod â dros 200 o randdeiliaid allweddol, addysgwyr, ac arweinwyr diwydiant o bob rhan o Gymru a thu hwnt ynghyd. Bydd y cynadleddwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn dadleuon panel sy’n cynnig cyfle i feddwl ac adlewyrchu, gweithdai rhyngweithiol, a rhwydweithio gyda chymheiriaid, i gyd wrth arddangos cryfder ac effaith y sector addysg bellach. 

Manylion pellach i ddilyn ond yn y cyfamser, cadwch y dyddiad yn eich dyddiadur a chadwch olwg am fanylion pellach a gwybodaeth gofrestru. 

Edrychwn ymlaen at eich croesawu ym mis Hydref! 

Gwybodaeth Bellach 

Bydd y dudalen cofrestru yn cael ei lansio ym mis Medi 2025.

Am wybodaeth yn ymwneud â’r gynhadledd/cyfleoedd nawdd, cysylltwch â Rachel.Rimanti@ColegauCymru.ac.uk  

Dyddiad ac Amser

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.