Cefnogi Arweinyddion Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol ledled Cymru

aln pathfinder choices welsh.png

Mae ColegauCymru’n cynnal prosiect sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo colegau wrth iddynt baratoi i roi’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg ar waith.

Prosiect yw hwn sy’n rhan o’r Gronfa Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol. Y nod yw cyflogi Arweinyddion Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol i fod yn gyfrifol am y canlynol: 

  • Rhoi cefnogaeth a her i golegau wrth iddynt baratoi ar gyfer gweithredu ALNET
  • Gweithio’n agos gyda’r pedwar Arweinydd Trawsnewid rhanbarthol (sy'n cynorthwyo’r awdurdodau lleol, yr ysgolion a’r colegau yn eu rhanbarth) i sicrhau dull cydlynol o drawsnewid pethau
  • Hyrwyddo partneriaethau effeithiol rhwng colegau, awdurdodau lleol, ysgolion, byrddau iechyd a’r trydydd sector
  • Creu cyswllt rhwng colegau a thîm Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg Llywodraeth Cymru
  • Cynorthwyo gyda strategaeth gyfathrebu Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn deall goblygiadau’r Ddeddf ac yn gallu cyfrannu at y broses o’i rhoi ar waith.

Bydd y prosiect hefyd yn ariannu nifer bychan o ddigwyddiadau rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn ceisio sicrhau cynnydd cyson.
 

Gwybodaeth Bellach

Chris Denham, Arweinydd Trawsnewid Anghenion Addysg Ychwanegol (Addysg Bellach)
Chris.Denham@ColegauCymru.ac.uk

undefined

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.