Ymunwch â'n Tîm

International Benchmarking page Website Banner.png

Ein gweledigaeth yw addysg o'r radd flaenaf i Gymru. Ein cenhadaeth yw dangos gwerth addysg bellach i bob dysgwr, y gymdeithas a'r economi. Rydym yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i'n rhanddeiliaid. Ond dim ond gydag ymrwymiad a gwaith caled ein tîm rhagorol o staff y gallwn wneud hyn.

Mae ColegauCymru yn cynnwys tîm bach o unigolion brwdfrydig a medrus ac mae gan y sefydliad brofiad helaeth yn y sector addysg bellach yng Nghymru.

Cynorthwyydd Cyfathrebu a Digwyddiadau 

Yn Adrodd i: Rheolwr Cyfathrebu 
Contract: Llawn amser, parhaol (Ystyrir rhannu swydd)
Cyflog: £24,242 - £27,388 (pro rata) 
Lleoliad: Cyfuniad o swyddfa (Caerdydd) a gweithio gartref gydag o leiaf 50% o’r wythnos yn cael ei dreulio yn y Swyddfa neu ‘ar leoliad’ (mewn digwyddiadau ac ati) 
Dyddiad cau: 13 Ionawr 2025

Trosolwg o Rôl 

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i ymgymryd â rôl gyfathrebu a marchnata cyffrous a heriol yn y sector addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith.  

Gan weithio'n agos gyda chydweithwyr Polisi a Materion Cyhoeddus ac adrodd i'r Rheolwr Cyfathrebu, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gynnal a datblygu llwyfannau marchnata digidol i raddau helaeth i hyrwyddo buddion addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, ac i gyfleu negeseuon allweddol y sefydliad yn glir i'n rhanddeiliaid mewnol ac allanol.  

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi cydweithwyr ColegauCymru i ddatblygu ein hunaniaeth brand ac ehangu ymwybyddiaeth o bwrpas, gweithgareddau a blaenoriaethau ColegauCymru. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys cefnogi cydweithwyr i gyflwyno a gweinyddu ein rhaglen flynyddol o ddigwyddiadau. Rydym yn chwilio am ymgeisydd ag agwedd gall-wneud, gyda sylw da i fanylion, sy'n canolbwyntio ar atebion.  

Mae hon yn rôl hybrid, ac ar hyn o bryd yn gyfle gweithio o gartref yn bennaf ond bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio’n rheolaidd o swyddfeydd ColegauCymru yng Nghaerdydd ac mewn gwahanol leoliadau coleg a sector, felly mae’r gallu i gymudo yma yn hanfodol. Efallai y bydd angen parodrwydd i deithio ledled Cymru, o fewn y DU ac yn rhyngwladol weithiau, a gweithio y tu allan i oriau gwaith arferol hefyd.  

Swydd Ddisgrifiad

Gweithio i ColegauCymru – Gwybodaeth Ychwanegol

Ymgeisio am y swydd hon  

Anfonwch CV sy'n dangos sut rydych chi'n cwrdd â'r Fanyleb Person, ynghyd â llythyr eglurhaol byr sy'n mynd i'r afael â'r cwestiynau isod. Ni ddylai'r ateb i bob un cwestiwn fod yn fwy na 200 gair.  

1. Pa sgiliau sydd eu hangen ar gynorthwyydd cyfathrebu yn eich barn chi i fod yn llwyddiannus?  

2. Disgrifiwch y pum pwynt gorau y byddech chi'n eu hystyried pe baech chi'n trefnu digwyddiad wyneb yn wyneb.  

3. Beth yw'r pethau allweddol y byddech chi'n eu hystyried ar gyfer trefnu cyfarfod ar-lein?  

4. Pam ydych chi'n meddwl bod rhoi sylw i fanylion yn rhan bwysig o'r rôl hon?  

5. Beth yw eich cyflawniad mwyaf balch, a pha ran wnaethoch chi ei chwarae wrth ei wneud yn llwyddiant (gallai hyn fod mewn cyd-destun personol neu broffesiynol)?  

Dylid cyflwyno ceisiadau drwy e-bost i HR@ColegauCymru.ac.uk   

Dyddiad Cau 

Y dyddiad cau ar gyfer y swydd wag hon yw 13 Ionawr 2025 am 12.00pm

Cyfweliadau 

Cynhelir cyfweliadau ar 21 Ionawr 2025 yn Nhongwynlais, Caerdydd 

Sylwch y gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.