Mae ColegauCymru Rhyngwladol yn arwain ar gyflwyno cyfleoedd datblygiad personol a phroffesiynol dramor ar gyfer dysgwyr a staff addysg bellach. Erasmus+ oedd un o’r prif ffynonellau cyllid o 2011-2020. Ers gadael yr UE, mae ColegauCymru Rhyngwladol bellach yn gwneud cais am gyllid drwy raglen cyfnewid tramor Llywodraeth Cymru, Taith, a rhaglen symudedd Llywodraeth y DU, Cynllun Turing.
Dysgwyr
Gwnaeth ColegauCymru Rhyngwladol gais am gyllid Erasmus+ ar ran colegau addysg bellach Cymru drwy ei geisiadau consortia Cymru gyfan. Darparodd y ceisiadau hyn gyfleoedd i ddysgwyr a phrentisiaid ymgymryd â lleoliadau gwaith pythefnos ledled Ewrop. Roedd y lleoliadau gwaith yn gydnaws â’r cymwysterau a oedd yn cael eu hastudio gan y dysgwyr yng Nghymru ac yn cynnig profiadau newid bywyd i bobl ifanc nad ydynt efallai erioed wedi ystyried cyfleoedd cyflogaeth y tu allan i Gymru.
Rhwng 2014 a 2020 (cylch olaf Erasmus+ o geisiadau ar gael i sefydliadau yn y DU), gwnaeth ColegauCymru Rhyngwladol gais llwyddiannus am €6.9m a ddarparodd hyfforddiant tramor a chyfleoedd gwaith i bron i 3,000 o ddysgwyr a phrentisiaid ledled Cymru.
Dysgwyr a staff ar fuddion lleoliadau gwaith yn Ewrop
Staff
Gwnaeth ColegauCymru Rhyngwladol hefyd gais am gyllid i gefnogi cyfleoedd DPP dramor ar gyfer darlithwyr addysg bellach, arweinwyr a staff cymorth. Roedd yr ymweliadau hyn yn cydnabod gwerth dysgu gan eraill gan roi cyfle i'r cyfranogwyr gael cipolwg ar arfer da a syniadau newydd o wledydd eraill yr UE.
Rhwng 2014 a 2020, llwyddodd ColegauCymru Rhyngwladol i wneud cais am €209,000 a gefnogodd 151 o staff addysg bellach i gymryd rhan mewn 9 ymweliad staff â’r gwledydd canlynol:
- 2014 - Helsinki, y Ffindir (Gwella llythrennedd a rhifedd mewn lleoliad galwedigaethol)
- 2015 - Gwlad y Basg, Sbaen (Arloesi mewn VET a chefnogi busnesau bach a chanolig)
- 2016 - Catalwnia, Sbaen (Amlieithrwydd ac ymgysylltu â chyflogwyr)
- 2017 - Sonderborg, Denmarc (Sgiliau lefel uwch mewn lleoliad addysg bellach)
- 2018 - Helsinki, y Ffindir a Pistoia, yr Eidal (Rhyngwladoli yn VET)
- 2019 - Baden-Wuerttemberg, yr Almaen (Digitaleiddio VET)
- 2020 - Fienna, Awstria ac Oslo, Norwy (Proffesiynoldeb deuol staff VET)
Yn ogystal â staff colegau addysg bellach, mae cynrychiolwyr o Estyn, Llywodraeth Cymru, Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) wedi cymryd rhan yn yr ymweliadau tramor hyn sydd wedi rhoi cyfleoedd i gasglu tystiolaeth, syniadau ac arfer da gan dramor i gefnogi gwelliannau ar lefel strategol i strwythurau addysg a hyfforddiant galwedigaethol Cymru.
Gwybodaeth Bellach
I ddarganfod mwy o raglenni sy'n cymryd lle Erasmus+ yng Nghymru, ewch Taith neu The Turing Scheme.
Siân Holleran, Rheolwr Prosiect
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk
Vicky Thomas, Swyddog Prosiect
Vicky.Thomas@ColegauCymru.ac.uk
Tudalennau cysylltiedig