pexels-roberto-nickson-2609463.jpg

Taith yw rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol Cymru sy’n creu cyfleoedd sy’n newid bywydau i astudio, hyfforddi, gwirfoddoli a gweithio ledled y byd. Mae'r rhaglen yn creu cyfleoedd i ehangu gorwelion, profi ffyrdd newydd o fyw, a dod â gwersi yn ôl i'w rhannu â phobl gartref. Mae Taith yn darparu cyfleoedd i brifysgolion, colegau addysg bellach, ysgolion, sefydliadau addysg ieuenctid ac oedolion.

Logo Taith

Dechreuodd y rhaglen yn 2022 a bydd yn rhedeg tan 2026. Fe'i cefnogir gan fuddsoddiad o £65m gan Lywodraeth Cymru.

Mae cyfleoedd ariannu trwy Taith yn gonglfaen i Strategaeth Ryngwladoli ColegauCymru Rhyngwladol gan fod treulio amser yn astudio, hyfforddi, gwirfoddoli neu ar leoliadau gwaith dramor yn ehangu gorwelion, yn ehangu sgiliau allweddol ac yn dod â buddion i gymunedau a sefydliadau yma yng Nghymru.

Mae Taith Llwybr 1 yn ariannu cyfnewidiadau mewnol ac allanol dysgwyr, prentisiaid a staff. Mae hyblygrwydd yn y rhaglen hefyd i sefydliadau wneud cais am gyfnewidiadau byrrach i annog dysgwyr sydd yn fwy agored i niwed i gymryd rhan mewn symudiadau tramor.

Mae cyllid Taith Llwybr 2 yn cefnogi datblygiad prosiectau cydweithredol rhyngwladol a arweinir gan sefydliadau yng Nghymru. Mae'r ffocws ar ddatblygu, rhannu a gweithredu arferion arloesol mewn addysg sy'n mynd i'r afael â materion penodol neu flaenoriaeth sector.

Mae ColegauCymru Rhyngwladol yn galonogol y gall pobl ifanc o bob cefndir elwa o’r cyfleoedd hyn a bod Cymru’n buddsoddi mewn dyfodol cryf, rhyngwladol i’w holl ddinasyddion.

Gwybodaeth Bellach

Am fwy o wybodaeth, ewch i Taith neu cysylltwch ag aelod o dîm Rhyngwladol ColegauCymru. 

Siân Holleran, Rheolwr Prosiect 
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk  

Vicky Thomas, Swyddog Prosiect 
Vicky.Thomas@ColegauCymru.ac.uk 

Tudalennau Cysylltiedig

Cynllun Turing Erasmus+ Erasmobility Cyfleoedd Dramor

Oeddech chi'n gwybod?

Ers lansio Taith Llwybr 1 yn 2022, mae ColegauCymru Rhyngwladol wedi sicrhau bron i £1m o gyllid fel bod dysgwyr a staff addysg bellach yn cael cyfleoedd i hyfforddi, gweithio a gwirfoddoli ledled y byd.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.