Mae colegau yng Nghymru yn cyflwyno ystod eang o raglenni dysgu seiliedig ar waith (DSW) a ariennir gan Lywodraeth Cymru i ddiwallu anghenion ystod amrywiol o gyflogwyr a dysgwyr.
ColegauCymru yn cynnull y Grŵp Dysgu Seiliedig ar Waith Strategol a Chyflogadwyedd Addysg Bellach. Dan gadeiryddiaeth Dr Barry Walters o Goleg Sir Benfro, mae’r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o bob coleg yng Nghymru, gan ddarparu trosolwg strategol ar gyfer materion dysgu seiliedig ar waith yn y sector addysg bellach gan gynnwys prentisiaethau.
Mae darpariaeth DSW a ddarperir gan golegau addysg bellach yn cefnogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau strategol ehangach Llywodraeth Cymru gan gynnwys:
- Y Warant i Bobl Ifanc;
- Cymru gryfach, decach a gwyrddach: cynllun cyflogadwyedd a sgiliau;
- Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol;
- Cymraeg 2050: strategaeth y Gymraeg; a
- Amcanion iechyd meddwl a lles.
Prentisiaethau
Mae rhaglen sgiliau blaenllaw Llywodraeth Cymru yn cael ei darparu gan golegau, ac mewn partneriaeth â chyflogwyr. Nod y Rhaglen Brentisiaeth yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau i brentisiaid (o bob oedran) i’w galluogi i ffynnu yn y gweithle. Bydd bron pob diwydiant a sector yn economi Cymru yn ymwneud â’r Rhaglen Brentisiaethau, gyda phrentisiaethau newydd yn cael eu datblygu drwy’r amser. Mae prentisiaeth yn galluogi unigolyn i ‘ennill a dysgu’ ar yr un pryd ac yn rhoi cyfle i gyflogwr dyfu ei dalent ei hun.
Mae ColegauCymru yn chwarae rhan hanfodol wrth hwyluso deialog rhwng pob coleg addysg bellach Llywodraeth Cymru, a rhanddeiliaid allweddol eraill drwy gyd-gadeirio’r Grŵp Cyfeirio Deiliaid Contract Dysgu Seiliedig ar Waith, sy’n gweld darparwyr colegau yn ymgysylltu’n uniongyrchol â swyddogion Llywodraeth Cymru i sicrhau gwelliant parhaus i’r Rhaglen Prentisiaethau.
Twf Swyddi Cymru+
Gyda’r nod o gefnogi pobl ifanc i mewn i gyflogaeth, nod rhaglen Twf Swyddi Cymru+ (JGW+) yw mynd i’r afael â’r rhwystrau niferus y mae pobl ifanc yn eu hwynebu heddiw wrth sicrhau eu swydd gyntaf. Mae’r rhaglen hyblyg hon yn canolbwyntio ar anghenion penodol y person ifanc ac yn caniatáu i golegau weithio gyda nhw fel unigolion i ddatblygu rhaglen ddysgu ac ymyriadau pwrpasol i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi’n llawn wrth drosglwyddo o addysg i gyflogaeth.
Fel ei rôl gyda phrentisiaethau, mae ColegauCymru hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu darpariaeth Twf Swyddi Cymru+, trwy gadeirio Bwrdd Gweithredol JGW+ ar y cyd â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Mae’r bwrdd hwn, sy’n dod ag aelodaeth ehangach fyth o randdeiliaid ynghyd, wedi chwarae rhan sylweddol ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen, mewn meysydd fel sicrhau cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i ddysgwyr, datblygu darpariaeth sy’n cefnogi iechyd meddwl a lles dysgwyr, yn ogystal â chynyddu cyrhaeddiad y rhaglen i unigolion 19 oed a’r rhai sy’n derbyn Credyd Cynhwysol.
Cyfrifon Dysgu Personol
Wedi’i hanelu at unigolion sydd eisoes mewn cyflogaeth, ond sy’n dymuno uwchsgilio neu ailsgilio, mae’r rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol (PLA) yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar unigolion i symud ymlaen i neu o fewn sectorau o bwysigrwydd economaidd mawr i Gymru. Mae’r rhaglen hyblyg ac ymatebol hon yn galluogi colegau i ymateb i anghenion unigolion a’u cyflogwyr i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd a gyflwynir gan dechnolegau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg.
Mae’r cyrsiau a ddarperir gan golegau yng Nghymru yn darparu’r sgiliau a’r cymwysterau y mae cyflogwyr lleol yn chwilio amdanynt. Maent yn canolbwyntio ar sectorau sy’n tyfu yn y rhanbarthau ac yn genedlaethol, a lle mae angen pobl â’r sgiliau hyn ar hyn o bryd. Wedi’i gyflwyno’n hyblyg ac o gwmpas bywyd yr unigolyn ac ymrwymiadau eraill, y nod yw, ar ddiwedd y cwrs, y bydd y rhai sy’n cyflawni mewn gwell sefyllfa i wneud cais am swyddi sy’n talu’n well.
Biwroau Cyflogaeth a Menter
Wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru, ac yn gweithredu ym mhob coleg yng Nghymru, mae’r Biwroau Cyflogaeth a Menter yn darparu pecyn cymorth i fyfyrwyr, amser llawn a rhan-amser, i feithrin sgiliau cyflogadwyedd a menter hanfodol, a chefnogi’r pontio i gyflogaeth drwy wahodd cyflogwyr i ymgysylltu â myfyrwyr i drafod cyfleoedd cyflogaeth. Mae’r Biwroau Cyflogaeth a Menter yn elfen allweddol o’r Warant i Bobl Ifanc.
Mae pob Biwro yn cynnig cymorth wedi'i deilwra i fyfyrwyr yn eu coleg ond maent yn agored i feithrin cyfleoedd parhaus gyda chyflogwyr yn eu rhanbarth. Prif amcan y biwroau yw cynnig gwasanaeth recriwtio i gyflogwyr lleol a chynyddu’r cyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael i ddysgwyr yn y coleg, trwy:
- cynnig cymorth pontio i ddysgwyr coleg presennol;
- creu cyfleoedd i fyfyrwyr ymgysylltu â chyflogwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol;
- paratoi myfyrwyr ar gyfer cyfleoedd swyddi a phrentisiaethau presennol ac yn y dyfodol a'u paru;
- brocera cysylltiadau recriwtio cryf rhwng colegau a chyflogwyr i ysgogi mwy o gyfleoedd dilyniant a gwell cyfleoedd i ddysgwyr;
- cefnogi dysgwyr sy’n gadael rhannau eraill o’r system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol fel ysgolion ac addysg uwch.
Further Information
Jeff Protheroe, Cynghorydd Strategol, Dysgu Seiliedig ar Waith a Chyflogadwyedd
Jeff.Protheroe@ColegauCymru.ac.uk