Mae Asesydd Busnes a Gweinyddiaeth Coleg Sir Benfro, Emma James, yn rhannu manylion am sut y gwnaeth cwblhau cymhwyster Gweinyddiaeth Busnes Lefel 2 yn llwyddiannus arwain at ddyrchafiad i un dysgwr.
Enw'r Dysgwr |
Olivia Keenan |
Prentisiaeth |
Lefel 2 Busnes a Gweinyddiaeth |
Coleg |
Coleg Sir Benfro |
“Deuthum yn aseswr ar ddechrau’r Cyfnod Clo cyntaf ym mis Mawrth 2020. Olivia oedd un o’m dysgwyr cyntaf ac ar y pryd yn cael ei chyflogi gan Heddlu Dyfed Powys fel Prentis Newid Busnes TGCh.
Cofrestrodd Olivia ar ein City & Guilds Lefel 2 Gweinyddiaeth Busnes, cymhwyster a gynlluniwyd ar gyfer unigolion sydd am weithio mewn swyddi cymorth gweinyddol mewn sefydliadau sector cyhoeddus neu breifat, neu ar gyfer y rhai sydd am wella eu sgiliau gweinyddol a goruchwylio.
Caniataodd y cwrs hwn i Olivia gael ei chyflwyno i ofynion rôl weinyddol ac i fagu hyder wrth ddysgu, wrth ddangos tystiolaeth o'i galluoedd.
Rydym wrth ein bodd bod Olivia wedi cwblhau o fewn y targed, gan weithio i safon uchel iawn trwy gydol ei hastudiaethau. Ar ôl ei chwblhau, aeth ymlaen i wneud cais am swyddi o fewn Heddlu Dyfed Powys ac ym mis Tachwedd 2021, bu’n llwyddiannus yn ei chais am rôl Cymorth Prosiect Newid Busnes TGCh.
Enwebwyd Olivia hefyd ar gyfer Newydd-ddyfodiad Gorau’r Flwyddyn Heddlu Dyfed Powys 2020. Fel un o 3 yn y rownd derfynol, roedd yn gryn gamp i gael ei henwebu. Mae Olivia yn hapus iawn ac yn falch o fod mewn rôl fwy parhaol yn yr Heddlu.”