Mae ColegauCymru heddiw wedi croesawu adroddiad Archwilio Cymru sy’n edrych ar reolaeth Llywodraeth Cymru o’r gwaith o gynllunio a gweithredu’r Cwricwlwm newydd i Gymru fel rhan o raglen sylweddol o ddiwygio addysg. Fodd bynnag, erys pryderon o ran sicrhau trosglwyddiad llwyddiannus i addysgu ôl-16.
Roedd ColegauCymru yn falch o fod wedi cyfrannu at y darn gwerthfawr hwn o waith a oedd â’r nod o roi sicrwydd bod gweithredu’r Cwricwlwm newydd i Gymru ar y trywydd iawn yng nghyd-destun y cynlluniau diwygiedig a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2021. Rydym yn croesawu’n arbennig adnabyddiaeth Archwilio Cymru bod sicrhau bod cymwysterau newydd yn cyd-fynd â’r cwricwlwm newydd ac mae cefnogi dilyniant i’r ystod lawn o opsiynau ôl-16 yn risg allweddol y mae angen i Lywodraeth Cymru ei rheoli.
Codwyd amrywiaeth o faterion gennym gan gynnwys sut y byddai’r cymwysterau newydd yn cefnogi Safon Uwch, myfyrwyr sy’n croesi’r ffin i astudio a’r rheini sy’n astudio cymwysterau galwedigaethol nad ydynt yn benodol i Gymru ar y cyfan.
Mae ColegauCymru yn cefnogi chwe argymhelliad Archwilio Cymru, yn enwedig yr angen i ddeall yn well a chefnogi craffu ar gost diwygio’r cwricwlwm ac i ddylunio a gweithredu cymwysterau newydd sy’n cefnogi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer y cwricwlwm newydd.
Dywedodd Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru, Dr Rachel Bowen,
“Roeddem yn falch o allu cyfrannu at y gwaith a wnaed gan Archwilio Cymru. Mae Cwricwlwm i Gymru yn cynnig cyfle gwych i’r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr gyda ffocws ar sicrhau eu bod yn llawn cymhelliant ac yn alluog, yn barod i ddysgu trwy gydol eu hoes. Fodd bynnag, mae'n bwysig cael y manylion yn gywir.
Rhaid i hyn gynnwys cyllid digonol i gyflawni uchelgeisiau'r Cwricwlwm newydd. Rhaid i’r cyllid hwn ymestyn i’r sector ôl-16 er mwyn paratoi staff a sicrhau trosglwyddiad esmwyth i ddysgwyr. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru ar yr heriau sydd o’n blaenau.”
Bydd ColegauCymru yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i sicrhau bod y Cwricwlwm newydd i Gymru yn addas i’r diben ac yn darparu cyfleoedd teg i bob dysgwr, waeth beth fo’u cefndir, lleoliad, neu lwybr addysg ddewisol. Gobeithiwn y bydd yn annog llwybrau galwedigaethol i gael eu hystyried yn gydradd â llwybrau academaidd.
Gwybodaeth Bellach
Archwilio Cymru
Cwricwlwm newydd i Gymru
Adroddiad i Archwilydd Cyffredinol Cymru
Mai 2022