Dathlu cyflawniadau dysgwyr Cymru yn WorldSkills Lyon 2024

worldskills lyon 2024 image 3.jpg

Mae ColegauCymru yn falch iawn o ddathlu cyflawniadau dysgwyr o golegau addysg bellach yng Nghymru a ffurfiodd ran o TeamUK yng nghystadleuaeth WorldSkills yn ddiweddar.

Bu dros 1,500 o bobl ifanc o 69 o wledydd yn cystadlu dros bedwar diwrnod o gystadleuaeth galed mewn 62 o wahanol sgiliau yn WorldSkills Lyon. Gwyliwyd y digwyddiad gan dros 250,000 o wylwyr. 

Enillodd cyn-brentis Coleg y Cymoedd Ruben Duggan Arian mewn Plymio a Gwresogi. 

Wrth ei fodd â'i gyflawniad, dywedodd Ruben, 

“Mae’n ddiweddglo eithaf i daith wych, o fy ngholeg bach yn y cymoedd i ennill medal arian yn rowndiau terfynol y byd. Does dim byd yn cymharu â hyn.” 

Enillodd cyn-ddysgwr Coleg Caerdydd a’r Fro, Ruby Pile, sydd bellach yn gweithio ym Mwyty mawreddog seren Michelin Hywel Jones yng Ngwesty a Sba Lucknam Park, wobr y Gorau yn y Genedl am y DU mewn Gwasanaeth Bwyty. 

Mynegodd Ruby ei balchder, gan ddweud, 

“Mae derbyn y wobr hon yn anrhydedd wych. Rydw i mor falch ohonof fy hun, yn enwedig ar ôl yr holl waith caled rydw i wedi’i wneud dros y 2 flynedd ddiwethaf.” 

Roedd cyn-Brentis Peirianneg Awyrennol Airbus yng Ngholeg Cambria, Rosie Boddy, hefyd

“wrth fy modd i gael fy newis ar gyfer Tîm y DU, mae wir yn brofiad unwaith mewn oes.” 

Fel rhan o Dîm y DU o 31, roedd yr unigolion dawnus hyn yn wynebu cystadleuaeth galed o bob rhan o’r byd. Mae cyrraedd diweddglo’r gystadleuaeth yn dyst i sgil ac ymroddiad anhygoel y bobl ifanc hyn, y mae eu gwaith caled a’u penderfyniad wedi dod â balchder i Gymru ar y llwyfan byd-eang. 

Wedi’u dethol, eu mentora a’u hyfforddi gan WorldSkills UK, a’u cefnogi gan Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, maent wedi cael eu cydnabod ymhlith y bobl ifanc mwyaf medrus yn y byd gan arbenigwyr blaenllaw yn y diwydiant byd-eang yn dilyn eu perfformiad ennill medalau yn y digwyddiad y cyfeirir ato’n aml fel y 'Gemau Olympaidd sgiliau'. 

Dywedodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant AS, 

"Nid yw bod yn rhan o Dîm y DU yn ymwneud â balchder cenedlaethol yn unig - mae'n ymwneud â rhoi'r sgiliau i'n pobl ifanc a fydd yn llywio dyfodol ein cenedl. Bydd yr arbenigedd y maent yn ei ddatblygu heddiw yn hybu economi, arloesedd a chymdeithas yfory. 

“Rydym yn hynod falch o’r cystadleuwyr Cymreig a gynrychiolodd Gymru fel rhan o Dîm y DU. Mae eu llwyddiant yn adlewyrchiad nid yn unig o’u hymroddiad eu hunain ond hefyd o gefnogaeth amhrisiadwy’r tîm o arbenigwyr a fu’n eu mentora a’u harwain ar hyd y daith. 

“Dylid dathlu cystadlaethau fel hyn gyda’r un brwdfrydedd â digwyddiadau athletaidd proffil uchel, gan eu bod yn codi safonau, yn ysbrydoli rhagoriaeth, ac yn arddangos y dalent a fydd yn gyrru Cymru a’r DU ymlaen fel arweinwyr byd-eang.” 

Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru, Dave Hagendyk, 

“Llongyfarchiadau i Ruben a Rosie a’r Tîm DU yn ei chyfanrwydd. Mae datblygu sgiliau o ansawdd uchel yn hanfodol i dyfu economi gref i Gymru, ac mae perfformiad tîm y DU, sydd wedi ennill medalau o flaen cynulleidfa fyd-eang, yn anfon neges gref bod y DU yn lle o safon fyd-eang i fuddsoddi, datblygu talent a chreu swyddi.” 

Gwybodaeth Bellach 

WorldSkills Lyon 2024 
47ain Cystadleuaeth WorldSkills i gefnogi Cystadleuwyr ifanc o bob rhan o'r byd 
10 – 15 Medi 2024 

WorldSkills UK – Tîm 2024 

Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru 

Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu 
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.