Mae ColegauCymru, ynghyd â rhanddeiliaid allweddol wedi dod at ei gilydd i gynnal arolwg i adolygu llwyth gwaith staff addysg bellach ac i helpu i greu darlun llawn o brofiadau staff a nodi unrhyw feysydd ar gyfer cydweithio pellach.
Arolwg Gweithlu 2023
Mae’r Grŵp Llywio Baich Gwaith Cenedlaethol yn bartneriaeth gymdeithasol sy’n cynnwys yr Undebau Llafur ar y Cyd, ColegauCymru a Llywodraeth Cymru. Drwy ymgynghori â’r grŵp llywio, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) i gynnal yr arolwg a fydd yn edrych ar lwyth gwaith, cyfranogiad mewn cynllunio gweithredu lleol ac effaith hyd yma, yn ogystal â lles a dysgu proffesiynol staff addysg bellach. Am y tro cyntaf, bydd staff cymorth busnes hefyd yn cael eu cynnwys, ynghyd â darlithwyr, gweithwyr cymorth dysgu ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Bydd hyn yn rhoi darlun cyflawn o lwyth gwaith y gweithlu addysg bellach.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,
“Rydym yn falch o gefnogi gwaith partneriaeth gymdeithasol gyda’r darn pwysig hwn o waith. Am y tro cyntaf, rydym yn falch o fod yn ymestyn yr arolwg i roi cyfle i staff cymorth busnes rannu eu profiadau.
Mae ein staff yn allweddol i lwyddiant ein colegau addysg bellach. Mae’n hanfodol ein bod yn ystyried eu barn er mwyn gwneud gwelliannau ystyrlon yn unol â’r newid yn y ddarpariaeth ôl-16 yng Nghymru.”
Lansiwyd yr arolwg ar 16 Ionawr a bydd yn rhedeg hyd at 31 Mawrth 2023, a byddem yn annog yr holl staff i gwblhau’r arolwg fel ein bod yn cael cymaint o fewnbwn â phosibl i lywio’r adolygiad.
Gweithredu Ar y Cyd
Rhagwelir y bydd Arolwg Gweithlu 2023 yn arwain at goladu data gwerthfawr a fydd yn arwain at weithredu cydweithredol pellach a gwelliant dilynol o ran rheoli llwyth gwaith staff.
Mae ColegauCymru wedi ymrwymo i weithio ar y cyd â’n partneriaid cymdeithasol i adolygu llwyth gwaith i gefnogi’r gweithlu addysg bellach ac mae’r arolwg yn rhoi cyfle i bob aelod o staff leisio’u profiadau.
Gwybodaeth Bellach
Arolwg Cenedlaethol o'r Gweithlu Addysg 2023
Kelly Edwards, Cyfarwyddwr Datblygu
Kelly.Edwards@ColegauCymru.ac.uk