Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi ei benderfyniad ar y mathau o gymwysterau a fydd ar gael i bobl ifanc 14 i 16 oed - ochr yn ochr â’r TGAU Gwneud-i-Gymru newydd.
Bydd y newidiadau a fydd yn llywio maes cymwysterau ar gyfer dysgwyr ysgolion uwchradd ar draws y wlad yn golygu cyflwyno cymwysterau TAAU (Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd) newydd sy’n gysylltiedig â gwaith, yn ogystal â chymwysterau newydd sy’n seiliedig ar sgiliau.
Meddai Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,
“Mae sector addysg a hyfforddiant galwedigaethol cryf yn hanfodol i adferiad a llwyddiant economaidd Cymru. Mae sicrhau bod gan bob dysgwr y sgiliau sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen i gam nesaf eu taith ddysgu neu gyflogaeth yn hollbwysig, ac mae cymwysterau yn chwarae rhan ganolog yma.
Rydym wedi ymgysylltu â Cymwysterau Cymru ar eu cynnig ar gyfer cymhwyster TAAU newydd ac rydym yn cytuno bod angen gwell opsiynau ar gyfer pob person ifanc sydd â diddordeb mewn astudio pynciau galwedigaethol.
Mae’n hanfodol bod cydraddoldeb gwirioneddol rhwng TAAU a TGAU ac nad yw pobl ifanc sy’n dewis llwybr galwedigaethol dan anfantais. Mae'n rhaid i hyn olygu bod TAAU yn cael eu haddysgu gan staff arbenigol a bod partneriaethau gyda cholegau i sicrhau bod disgyblion yn cael mynediad i gyfleusterau o ansawdd uchel, o safon diwydiant.
Rhaid hefyd monitro’n agos pwy sy’n manteisio ar yr opsiwn TAAU i sicrhau nad yw’n creu system gymwysterau dwy haen ac yn gwreiddio anghydraddoldebau ymhellach.
Bydd colegau’n gweithio’n agos ac yn adeiladol gyda Cymwysterau Cymru i sicrhau bod y profion hyn yn cael eu darparu a bod pob person ifanc yn cael mynediad at y llwybr addysg sy’n iawn iddyn nhw.
Rydym hefyd yn ailadrodd yn gryf ein galwad ar Lywodraeth Cymru ddatblygu Strategaeth Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol. Ers llawer rhy hir nid ydym wedi bod â chynllun yng Nghymru ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol a’r canlyniad fu cyfres o ymyriadau byrdymor a thameidiog. Bellach mae cyfrifoldeb ar Weinidogion i gamu ymlaen a sicrhau bod gweledigaeth strategol newydd ar gyfer y dyfodol yn ei lle cyn gynted â phosibl.”
Gwybodaeth Bellach
Cyhoeddiad Cymwysterau Cymru
Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi ystod newydd gyffrous o gymwysterau
30 Ionawr 2024
Rachel Cable, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk