Colegau yn dathlu llwyddiant TGAU a chanlyniadau galwedigaethol

a level results.jpeg

Mae colegau addysg bellach ledled Cymru heddiw yn llongyfarch dysgwyr wrth iddynt dderbyn eu canlyniadau TGAU a chymwysterau galwedigaethol. 

Anfonwn ein llongyfarchiadau cynhesaf i bob dysgwr wrth iddynt dderbyn eu canlyniadau. Rydym hefyd yn anfon ein diolch diffuant at ein cydweithwyr addysg, a rhieni a gofalwyr fel ei gilydd sydd wedi cefnogi pobl ifanc wrth iddynt lywio’r cyfnod heriol hwn. 

Mewn blwyddyn arall sy’n llawn heriau ac ansicrwydd, yn fwy nag effaith y cynnydd mewn costau byw, mae dysgwyr wedi dangos eu gwydnwch a chymeradwywn eu hymdrechion ynghyd ag ymdrechion darlithwyr a staff y coleg, sydd wedi cydweithio i greu amgylchedd ffafriol i alluogi llwyddiant. 

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk, 

“Mae ein colegau yma unwaith eto i gefnogi pobl ifanc i gymryd eu camau nesaf yn eu taith ddysgu. Gydag arlwy eang, mae colegau addysg bellach mewn sefyllfa ddelfrydol i allu bodloni ystod eang o anghenion, gan ganiatáu iddynt gefnogi pob math o ddysgwyr i gyflawni eu llawn botensial. Waeth beth fo’r canlyniadau a gânt heddiw, bydd gan ddysgwyr yr opsiynau gorau sydd ar gael iddynt ac fe’u hanogir i gysylltu â’u coleg lleol i ddarganfod mwy.” 

Gwybodaeth Bellach 

Datganiad i'r Wasg Llywodraeth Cymru 
Yr Ysgrifennydd Addysg yn llongyfarch myfyrwyr ar eu canlyniadau TGAU
22 Awst 2024 

Gwefan Gyrfa Cymru 

Cysylltwch â'ch coleg lleol am gymorth ac arweiniad 
Ein colegau 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.