Colegau Addysg Bellach yn dathlu llwyddiant canlyniadau cymwysterau Safon Uwch a galwedigaethol

a level results.jpeg

Mae ColegauCymru yn falch iawn o ddathlu gyda dysgwyr o bob rhan o Gymru wrth iddynt dderbyn canlyniadau eu cymwysterau heddiw. Mae llwyddiant dysgwyr Cymru yn dyst i'w hymroddiad ac i ymrwymiad ein haddysgwyr. 

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk, 

“Llongyfarchiadau i bob dysgwr wrth iddynt dderbyn canlyniadau UG/Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol heddiw. Rydym hefyd yn anfon ein diolch diffuant at ein cydweithwyr addysg, rhieni a gofalwyr fel ei gilydd, sydd wedi cefnogi pobl ifanc wrth iddynt lywio’r cyfnod anodd hwn. 

“Mae dysgwyr sy’n casglu eu canlyniadau heddiw wedi dangos gwydnwch anhygoel, a dylent fod yn falch o’u cyflawniadau. Gall eich coleg lleol, ochr yn ochr â Gyrfa Cymru, helpu pobl i lywio’r camau nesaf mewn addysg, prentisiaeth neu waith.” 

Mewn blwyddyn arall sy’n llawn heriau ac ansicrwydd, yn bennaf oherwydd effaith y cynnydd mewn costau byw, mae dysgwyr wedi dangos eu gwydnwch a’u penderfyniad, a chymeradwywn eu hymdrechion ynghyd ag ymdrechion darlithwyr a staff y coleg, sydd wedi cydweithio i greu amgylchedd sy'n hwyluso llwyddiant. 

Mae ein colegau yn falch o ddathlu gwytnwch dysgwyr wrth iddynt barhau adfeddiannu o effeithiau pandemig Covid19, wrth wneud yn siŵr eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i symud ymlaen yn eu taith ddysgu neu i symud i gyflogaeth. 

Waeth beth fo’r canlyniadau heddiw, mae dysgwyr yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’n colegau addysg bellach gyda gwasanaethau cyngor ac arweiniad wrth law yn awr i’w cynorthwyo i gymryd eu camau nesaf i ddyfodol disglair. 

Gwybodaeth Bellach 

Datganiad i'r Wasg Llywodraeth Cymru 
Canlyniadau arholiadau: Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn llongyfarch myfyrwyr
15 Awst 2024 

Cysylltwch â'ch coleg lleol am gymorth ac arweiniad 

Gwefan Gyrfa Cymru 

Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu 
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.