Anrhydeddu Prif Weithredwr Coleg Gŵyr Abertawe yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd EM y Brenin 2024 am wasanaethau i addysg

gower college.jpg

Mae Prif Weithredwr Coleg Gŵyr Abertawe, Mark Jones, wedi’i anrhydeddu yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin i gydnabod ei wasanaethau i addysg. 

Mae Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin 2024 yn nodi cyfraniadau a gwasanaeth rhyfeddol pobl ledled y DU. 

Mae Mark wedi bod yn Brif Weithredwr Coleg Gŵyr Abertawe ers 2013, ar ôl bod yn Brif Weithredwr Coleg Penybont yn flaenorol. Bu hefyd yn Gadeirydd ColegauCymru rhwng 2013 a 2015. 

Mae Mark yn athro cymwysedig ac yn gyfrifydd siartredig cymwys ac mae ganddo radd meistr mewn rheolaeth addysgol. Cyn arbenigo mewn addysg, bu Mark yn gweithio mewn ymarfer cyhoeddus ac mewn diwydiant. Mae hefyd wedi dal swyddi uwch reoli eraill mewn sefydliadau addysg bellach ac uwch yng Nghymru a Lloegr. 

Fel un o’r colegau addysg bellach mwyaf yng Nghymru, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi pobl ar eu teithiau dysgu ac, yn y broses, yn helpu i ddarparu gweithlu medrus ar gyfer y rhanbarth. 

Dywedodd Prif Weithredwr Dros Dro ColegauCymru, Kelly Edwards, 

“Rydym yn anfon ein llongyfarchiadau cynhesaf at Mark wrth iddo dderbyn MBE am wasanaethau i addysg. Mae Mark wedi’i gydnabod am ei ymrwymiad i ddysgwyr, cyflogwyr a chymunedau, ac mae’n dyst i’r gwerth y mae ein colegau addysg bellach yn ei roi i Gymru. Llongyfarchiadau gwresog, Mark.” 

Gwybodaeth Bellach 

Datganiad i'r wasg 
Change-makers and innovators recognised in HM The King's Birthday 2024 Honours list 
Mae Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd EM Y Brenin 2024 yn cydnabod gwasanaeth anhunanol ac arloesol i eraill gan bobl ledled y DU. 
14 Mehefin 2024 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.