Gallai cynnig cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru i dorri bron i 25% ar gyllid prentisiaethau gostio £406.8m i economi Cymru yn y tymor hir, gan daro prentisiaid o gefndiroedd difreintiedig caletaf. Dyna oedd neges astudiaeth effaith ddiweddar gan yr ymgynghoriaeth economeg, The Centre for Economics and Business Research (Cebr).
Wrth i Wythnos Prentisiaethau Cymru 2024 ddod i ben, mae wedi bod yn wych gweld a rhannu cymaint o straeon ysbrydoledig yn arddangos gwerth prentisiaethau i ddysgwyr, cymunedau a chyflogwyr. Mae’r adroddiad hwn, a gomisiynwyd gan Goleg Caerdydd a’r Fro, fodd bynnag, yn dod i’r casgliad y gallai effaith economaidd torri 10,000 o brentisiaethau fod tua £84.1m mewn GYG (Gwerth Ychwanegol Gros). Yn y tymor hir, gallai'r golled bosibl mewn allbwn economaidd gyrraedd hyd at £406.8m.
Mae gwariant mwyaf Llywodraeth Cymru ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol1 – ac mae’r angen i gryfhau gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru wedi’i gofnodi’n dda. Mae torri prentisiaethau yn gambl na all Cymru fforddio ei chymryd. Wrth i’r gyllideb ddrafft ar brentisiaethau gael ei chyflwyno, y sector Iechyd fyddai’n teimlo’r effaith fwyaf, gyda chyfanswm posibl o £105.1m o golled GYG.
Canfu Cebr mai Adeiladwaith fyddai'n dioddef fwyaf ar ôl y sector Iechyd gyda 24.6% o golled GYG. Gallai'r golled gyffredinol fod bron i £100m os bydd y toriadau'n cael eu dilyn gan ddim datblygiad sgiliau pellach. Mae’r ymchwil hefyd yn awgrymu y bydd y toriadau cyllid yn effeithio’n anghymesur ar ddiwydiannau llai a’r segmentau mwyaf difreintiedig o boblogaeth Cymru, gyda’r golled GYG isaf ymhlith y lleiaf difreintiedig.
“Ar y cyfan, gallwn ddod i’r casgliad y byddai toriadau cyllid yn arwain at golled GYG anghymesur o fewn y degraddau mwyaf difreintiedig,
“Mae hyn yn tanlinellu pa mor agored i niwed yw’r ddemograffeg hon, o ystyried bod y prentisiaid yr effeithir arnynt wedi’u crynhoi’n bennaf yn y 40% isaf. O ganlyniad, byddai’r toriadau ariannol yn lleihau eu rhagolygon cyflogaeth yn anwastad.”
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,
“Er bod hon yn wythnos i ddathlu cyfraniad prentisiaethau yng Nghymru, mae’r ymchwil yn dangos realiti llwm yr hyn y bydd toriadau arfaethedig yn y gyllideb yn ei olygu, nid yn unig i ddysgwyr ond i gyflogwyr ac economi ehangach Cymru. Bydd y gostyngiad yn nifer y dechreuadau yn disgyn yn anghymesur ar ein pobl ifanc, a’r rheini yn y grwpiau economaidd-gymdeithasol isaf, y mae llawer ohonynt eisoes wedi’u heffeithio’n andwyol gan effaith blynyddoedd ysgol Covid.
Wrth i Gymru barhau i lywio’r cyfnod economaidd cythryblus, ein colegau yw’r injan sgiliau sydd eu hangen i ysgogi ein hadferiad economaidd – drwy ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr. Mae’n hollbwysig nad yw mewnfuddsoddiad yn y dyfodol yn cael ei niweidio. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried eu cynigion.”
Mae colegau addysg bellach yn sylfaenol i Gymru decach, wyrddach a chryfach, ond mae angen cyllid cynaliadwy arnynt i allu cefnogi dysgwyr a chyflawni ar gyfer cyflogwyr. Mae’r toriadau cyllid arfaethedig yn golygu mae dyfodol ansicr yn wynebu'r sector ar hyn o bryd.
Gwybodaeth Bellach
Adroddiad Cber i Goleg Caerdydd a'r Fro
The Impact of Apprenticeship Funding Cuts in Wales
Ionawr 2024
1 Ymchwil y Senedd
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25
22 Rhagfyr 2023
Rachel Cable, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk