Daeth Cynhadledd a Chinio Blynyddol ColegauCymru eleni i ben ar nodyn positif, gan nodi cynulliad llwyddiannus arall o arweinwyr addysg bellach, addysgwyr, llunwyr polisi a phartneriaid Cymru. Daeth y digwyddiad, a gynhaliwyd ar 23 a 24 Hydref, â rhanddeiliaid o bob rhan o’r sector ynghyd i fyfyrio ar yr hyn a ddysgwyd o’r 12 mis diwethaf, wrth edrych ar sut y bydd cydweithio’n hanfodol i fynd i’r afael â heriau’r dyfodol.
Addysg 5.0: Dyfodol Addysg Bellach yng Nghymru
Wedi’i noddi’n hael gan City & Guilds, cynigodd y Gynhadledd cyfleoedd niferus ar gyfer sgyrsiau a thrafodaethau a oedd yn ysgogi’r meddwl dan arweiniad pobl allweddol ym myd addysg a diwydiant, gan gynnwys y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells AS, Prif Economegydd Cymru, Dr Thomas Nicholls, a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Derek Walker. Clywsom hefyd gan amrywiaeth o fusnesau, partneriaid cymdeithasol ac asiantaethau sector sy’n ganolog i addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith.
Dywedodd Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru, Rachel Cable,
“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi dod â chydweithwyr hen a newydd o bob rhan o’r sector ynghyd ar gyfer Cynhadledd werthfawr a chraff arall. Rhoddodd ein prif anerchiadau gipolwg ar yr heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau, gan sbarduno sgyrsiau ystyrlon am ein rôl gyfunol wrth lunio tirwedd addysg wydn ac arloesol i helpu cymunedau ac economi Cymru i ffynnu”.
Sesiynau Gweithdy Rhyngweithiol
Rhoddodd sesiynau gweithdy gyfle i dreiddio'n ddyfnach i feysydd penodol; canolbwyntio ar themâu gan gynnwys: prentisiaethau sy'n addas ar gyfer y dyfodol; gwella ansawdd y dysgu mewn model trydyddol; cynaliadwyedd digidol; darpariaeth cyfrwng Cymraeg; partneriaeth gymdeithasol; gwerth cymdeithasol; lles actif ar gyfer amgylcheddau ffyniannus, a’r hyn a ddysgwyd o’r Ffindir a’r angen am strategaeth VET i Gymru.
Cinio'r Gynhadledd
Rydym hefyd yn ddiolchgar i Agored am noddi Cinio’r Gynhadledd eleni ac i Jason Mohammad, am rannu myfyrdodau ar ei daith drwy addysg bellach i yrfa ddarlledu lwyddiannus.
Edrych tua'r Dyfodol
Wrth i’r sector edrych tua’r dyfodol, mae’r ffocws yn parhau ar gydweithio i fynd i’r afael â heriau parhaus a heriau sy’n dod i’r amlwg, ac i sicrhau bod y llunwyr polisi yn deall y gwerth sydd gan addysg bellach wrth gefnogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei nod o Gymru gryfach, decach a gwyrddach.
Mae ColegauCymru yn ddiolchgar am y gefnogaeth a dderbyniwyd gan gyfranwyr, noddwyr a chynadleddwyr fel ei gilydd, am ddod ynghyd ar gyfer diwrnod gwerthfawr o ddysgu a rhannu. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’n Cynhadledd nesaf.
Gwybodaeth Bellach
Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk