Pwrpas y cynllun Cymraeg Gwaith mewn Addysg Bellach yw gwella sgiliau iaith staff mewn colegau ar draws Cymru er mwy bod gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg a’n ddwyieithog. Serch hynny, mae dysgu iaith yn beth personol iawn, ac mae sawl un o’n dysgwyr wedi ymgorffori’r Gymraeg i’w bywydau personol hefyd. Dyma stori Julia, sy’n gweithio yng Ngholeg Sir Benfro.
“Dyn ni wedi bod gyda’n gilydd ers pymtheg mlynedd a tan yn ddiweddar doedd dim diddordeb gyda fi mewn priodi.
Wrth ddathlu pymtheg mlynedd ers ein dêt cyntaf, fe ddychwelon ni i leoliad y ddêt sef Ddinbych y Pysgod, neu dyna be oedd e’n ei feddwl. A dweud y gwir, ro’n i wedi cynllunio i ofyn iddo fy mhriodi ar Draeth y De. Mae Gareth yn siarad Cymraeg yn rhugl, felly penderfynais ofyn y cwestiwn iddo yn Gymraeg, er mwyn gwneud yr achlysur yn fwy arbennig a phersonol.
Roedd fy nhiwtor Cymraeg a minnau wedi bod yn ymarfer fy ngeiriau gyda’n gilydd ers rhai wythnosau a ro’ ni’n ailadrodd i fy hunan filoedd o weithiau’r diwrnod.
Ar y traeth, gafaelais yn ei ddwylo gan edrych yn syth i’w lygaid, “Dwi’n dy garu di gymaint” dywedais. Yna, wrth ben-glinio a chymryd anadl ddofn i dawelu’r nerfau, tynnais i’r fodrwy syml ro’n i wedi ei brynu iddo… “Gareth Wyn Griffiths…wnei di fy mhriodi i?”
Roedd y munudau nesaf yn emosiynol a dagreuol, gyda chwtshys a chusanau, ac wrth gwrs dywedodd “Gwnaf.”
Dw i mor ddiolchgar i’m Tiwtor Cymraeg a’m nghydweithwyr yn y dosbarthu Cymraeg am wneud y diwrnod mor arbennig i ni…bant â ni i brynu modrwy dyweddïo nesa’!”
Mae Julia wedi bod yn gweithio fel Swyddog Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd yng Ngholeg Sir Benfro ers 15 mlynedd ac wedi bod yn dysgu Cymraeg yn ysbeidiol am flynyddoedd.
Ychwanegodd hi,
“Mae’r cynllun Cymraeg Gwaith wedi rhoi ffocws ychwanegol proffesiynol wrth ddysgu Cymraeg, yn hytrach na dysgu am resymau personol yn unig. Yn y gorffennol, roedd hi’n hawdd digalonni wrth ddysgu o ddiddordeb yn unig. Mae dysgu yn y gweithle wedi cadw fi ar drywydd, gyda’r elfen ychwanegol o gystadlu rhwng fy nghydweithwyr a chefnogaeth y tiwtor yn helpu fi barhau dysgu yn y dosbarth, gwneud fy ngwaith cartref a pharhau dysgu.”
Pob hapusrwydd i chi Julia a Gareth!
Gwybodaeth Bellach
Gyda chyllid gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg, mae ColegauCymru yn cydlynu Prosiect Gwaith Cymraeg addysg bellach ar gyfer y sector colegau addysg bellach.