Sgiliau Byw'n Annibynnol (ILS)

ILS Gardening.png

Mae ColegauCymru yn gweithio gyda chynrychiolwyr o golegau a rhanddeiliaid ehangach i gasglu a rhannu arfer gorau presennol i ddatblygu’r cwricwlwm Sgiliau Byw’n Annibynnol (SBA) a’r Rhaglen Maes Dysgu (LAP). 

Rydym wedi arwain nifer o brosiectau sydd wedi cefnogi datblygiad a chyflwyniad cwricwlwm newydd heb ei achredu ar gyfer SBA. Llwyddodd y fenter yma drwy ffurfio cymuned ddysgu broffesiynol, Rhwydwaith SBA. Mae aelodaeth y rhwydwaith yn cynnwys cynrychiolwyr o bob sefydliad addysg bellach yng Nghymru, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, Estyn a Natspec. 

Gyda arian Llywodraeth Cymru, mae’r Rhwydwaith SBA wedi gwneud newidiadau radical i ddarpariaeth SBA yng Nghymru mewn ymateb i argymhellion a wnaethwyd yn adroddiad thematig Estyn (2017). Mae’r canlyniadau a gyflawnwyd yn cynnwys: 

  • Datblygu a chyflwyno'r Cwricwlwm SBA Pedair Colofn newydd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, cael ei arwain gan gyrchfan, sy'n ymarferol a pherthnsaol
  • Symud i ddysgu heb ei achredu yn bennaf, gyda dysgwyr yn gweithio i gyflawni targedau unigol. 
  • Cyhoeddi fframwaith hunanasesu RARPA a phecyn cymorth arweiniad y cytunwyd arno. 
  • Hyfforddiant i reolwyr ac ymarferwyr SBA ar ddefnyddio'r cwricwlwm newydd gan gynnwys rhaglen o weminarau a chyfle mentora. 
  • Datblygu a chyflwyno adolygiad RARPA/proses cyfnewid cymheiriaid. 
  • Datblygu canllawiau a safonau ar gyfer darpariaeth Pathway 4 (pontio i gyflogaeth ac interniaethau â chymorth). 
  • Cynadleddau blynyddol gyda 80 – 100 o staff o golegau ledled Cymru yn mynychu. 
  • Rhannu arfer ac adnoddau effeithiol ledled Cymru, datblygu’r cyfleusterau a’r addysgeg ym mhob sefydliad. 

Mae’r Rhwydwaith SBA yn parhau i gydweithio i: 

  • ddatblygu a rhannu arfer ac adnoddau effeithiol; 
  • adolygu a diweddaru prosesau a dogfennaeth y cwricwlwm yn rheolaidd i sicrhau ansawdd; 
  • sicrhau ansawdd a thrylwyredd mewn dulliau o asesu, monitro a olrhain cynnydd y dysgwyrr; a 
  • monitro’r broses o gyflwyno Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a’i heffaith o fewn maes rhaglen SBA. 

Gwybodaeth Bellach 

Adroddiad Llywodraeth Cymru
Ymateb i adolygiad thematig Estyn o gynnydd a chyrchfannau dysgwyr mewn meysydd dysgu medrau byw yn annibynnol mewn colegau addysg bellach
Mehefin 2017

SBA - Llwybr 4 Interniaethau â Chymorth - Canllawiau a Safonnau

Canllawiau ar gyfer Hunanasesiad RARPA SBA - Rhan 1
Templed Hunan-Asesu RARPA SBA Cyfnewid Cyfoedion - Rhan 1
Canllawiau ar gyfer Hunanasesiad RARPA SBA - Rhan 2
Templed Hunan-asesiad RARPA SBA Cyfnewid Cyfoedion - Rhan 2

Arweiniad RARPA SBA Cyfnewid Cyfoedion

Ffurflen 1 Cyfnewid Cyfoedion SBA - Samplu Profiad y Dysgwr
Ffurflen 2 Cyfnewid Cyfoedion SBA - Gwiriad Allanol gan Adolygiad Cymheiriaid

Cysylltwch 

Eifiona Williams yw prif gyswllt ColegauCymru ar gyfer SBA mewn colegau addysg bellach yng Nghymru. 
Eifiona.Williams@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.