Mae ColegauCymru Rhyngwladol yn arwain ar ddarparu cyfleoedd datblygu tramor i ddysgwyr a staff mewn addysg bellach (AB). Mae treulio amser yn astudio, yn gwirfoddoli, yn hyfforddi neu ar leoliadau gwaith dramor yn ehangu gorwelion, yn cryfhau sgiliau allweddol, ac yn dod â buddion nid yn unig i gyfranogwyr unigol ond hefyd i gymunedau a sefydliadau yma yng Nghymru.
Trwy ein rhwydwaith cadarn o bartneriaid ledled y byd, yr ydym yn cydweithio â nhw i gynnig cyfleoedd cyfoethogi a gwella rhyngwladol i ddysgwyr a staff, rydym hefyd yn annog ymweliadau cilyddol fel y gall ein partneriaid ddod i Gymru i astudio, hyfforddi ac i rannu arfer da. Gwneir y cyfleoedd hyn yn bosibl trwy raglenni symudedd a ariennir fel rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol Llywodraeth Cymru, Taith, a rhaglen cyfleoedd rhyngwladol Llywodraeth y DU, Cynllun Turing.
Mae colegau'n chwarae rhan hanfodol ar y llwyfan rhyngwladol gan weithio gyda phartneriaid gartref a thramor. Yn 2023/24, mae prosiectau dan arweiniad consortiwm ColegauCymru gyda Taith a Turing wedi ariannu cyfanswm o 50 o ymweliadau tramor i 18 o wledydd ledled y byd gan gynnwys yr Ariannin, Nepal, Slofenia a Chanada. Roedd cyfanswm o 365 o ddysgwyr a 60 o staff o’r sector AB yn gallu gwirfoddoli, gweithio a hyfforddi dramor – cyfleoedd na fyddai wedi bod ar gael iddynt heb y cyllid hwn. Roedd y rhain hefyd yn cynnwys dau ymweliad ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ac ymweliadau mewnol o 7 gwlad i Gymru ar gyfer 29 o ddysgwyr ac 17 o staff.
Gan edrych ymlaen at 2024/25, mae ColegauCymru yn arwain prosiect trawswladol gyda sefydliadau Canada i fynd i’r afael â phryderon a godwyd yn adroddiad Estyn ar ‘Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr AB 16 i 18 oed’ a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2023. Allbwn allweddol fydd ffurfio Cymuned Ymarfer drawswladol gyda ffocws ar atal a mynd i'r afael ag agweddau a diwylliannau misogynistaidd ymhlith grwpiau o ddysgwyr mewn colegau AB.
Mae rhaglen symudedd rhyngwladol Llywodraeth y DU – Cynllun Turing – hefyd yn chwarae rhan bwysig. Yn 2023/24, mae ColegauCymru, trwy ei brosiect consortiwm Cymru gyfan, wedi ariannu 216 o ddysgwyr i ymgymryd â lleoliadau tramor mewn 12 gwlad ar draws y byd.
Astudiaethau Achos
Er mwyn gwneud y mwyaf o effaith cyllidebau tynnach ar gyfer cyfnewidfeydd rhyngwladol, mae cynllunio strategol yn hollbwysig. Mae Coleg Catholig Dewi Sant wedi dangos sut y gall rhaglenni ariannu Taith a Turing weithio ochr yn ochr â’i gilydd i gynnig cyfleoedd gwahanol i ddysgwyr a staff AB gyda’r ddwy raglen yn cefnogi datblygiad partneriaethau tramor newydd.
Mabwysiadodd Coleg Catholig Dewi Sant ddull Coleg-gyfan o hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’i diwylliant, ei hethos Catholig a’i hymrwymiad i bartneriaethau cymdeithasol.
Ffurfiodd y prosiect mewn tri cham:
Cam Un – ymweliad staff a ariennir gan Taith i Ysgol y Cwm, Trevelin, i sefydlu partneriaeth, rhannu cwricwla ac archwilio ymarferoldeb ymweliad dysgwr.
Cam Dau – ymweliad gan ddysgwyr gyda staff a ariennir gan Gynllun Turing i Ysgol y Cwm, Ysgol yr Hendre, a Choleg Camwy, Patagonia.
Cam Tri – dysgwr mewnol a staff yn ymweld â Thyddewi o Goleg Camwy (gyda dysgwyr yn astudio cymwysterau cyfwerth â Lefel A).
Trwy strwythuro eu prosiect i gynnwys paratoi a datblygu staff, ymweliad gan ddysgwyr, ac ymweliad mewnol â Chymru, mae Coleg Catholig Dewi Sant wedi dangos sut i wneud y defnydd mwyaf effeithlon o gyllid, gyda golwg ar adeiladu partneriaethau cynaliadwy cryf dros amser. Yn ogystal â llwyddo i gynyddu hunaniaeth Gymreig y Coleg, fe wnaeth y coleg hefyd wella agwedd fyd-eang y sefydliad drwy:
-
creu cyfleoedd i ddysgwyr ddod yn ddinasyddion byd-eang;
-
cynyddu hyder a brwdfrydedd staff i gymryd rhan mewn symudiadau a phartneriaethau rhyngwladol, yn enwedig i gyrchfannau pell;
-
sefydlu partneriaethau rhyngwladol cynaliadwy, sy'n cyd-fynd â'i hethos Catholig a'i hymrwymiad i bartneriaethau cymdeithasol.
Arweiniodd Coleg Sir Benfro brosiect Trosglwyddo Gwybodaeth i Ynni Adnewyddadwy a Benywod mewn Peirianneg – gan amlygu sut y gall ymgysylltu â phartneriaid tramor gael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad staff, cynllunio cwricwlwm ac economi Cymru. Ym mis Mawrth 2024, teithiodd saith aelod o staff o Goleg Sir Benfro i Newfoundland, Canada i ddysgu mwy am ddatblygiadau cwricwlaidd mewn ynni gwyrdd fel technolegau Hydrogen a Gwynt.
Ers hynny mae'r coleg wedi cymryd rhan mewn cyfleoedd yn ymwneud â Hydrogen ac Ynni Gwynt, fel dylunio cyfleusterau hyfforddi, datblygu'r cwricwlwm, a hyfforddi/uwchsgilio staff. Roedd staff y coleg hefyd yn gallu dysgu gan bartneriaid o Ganada am eu darpariaeth o sgiliau lefel uwch. Mae Coleg Sir Benfro eisoes yn cyflwyno i’r sector Carbon Hydrogen bu'r ymweliad hwn yn gymorth i'r coleg amrywio'r hyn a gynigir ganddo trwy gefnogi sectorau eraill hefyd. Darparodd yr ymweliad gyfleoedd ar gyfer datblygiad staff, wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Mae coleg Sir Benfro wedi parhau i feithrin perthynas â Merched Dur trwy gyfarfodydd ar-lein ac mae’n gweithio tuag at adeiladu cyfleoedd pellach ar gyfer mentora a lleoliadau gwaith. Mae’r rhaglen Merched Dur yn rhoi’r offer a’r sgiliau sydd eu hangen ar fenywod yn Undeb y Gweithwyr Dur Unedig (PDC) i frwydro dros gydraddoldeb a’i gyflawni, ac i ymgymryd â rolau arwain yng ngweithleoedd Canada ac ym Mhrifysgol De Cymru.
Ymweliad Coleg Caerdydd a'r Fro (CAVC) â Bosnia a Herzegovina. Mae Cymru a’i cholegau wedi ymrwymo i Gymru ddod yn genedl Wrth-hiliol erbyn 2030, ac un o rannau allweddol y daith yw datblygu’r cwricwlwm. Gyda chyllid Taith drwy brosiect consortiwm ColegauCymru, cynlluniodd CAVC ymweliad ‘cyfnewid gwrth-hiliaeth’ â Bosnia a Herzegovina.
Trwy adeiladu partneriaeth gyda Cofio Srebeneica Cymru, trefnodd staff raglen yn canolbwyntio ar Hil-laddiad Bosniaidd - cyfnod o dair blynedd rhwng 1992 - 1995 pan laddwyd 100,000 o bobl (Bosniaks a Croatiaid) yn systematig. Roedd y digwyddiad mwyaf drwg-enwog yn Srebrenica lle cafodd dros 8,000 o ddynion a bechgyn eu lladd dros sawl diwrnod.
Roedd yr ymweliad yn gyfle i ailgysylltu â hanes coll, ond hefyd i ddeall mwy am ddiwylliant a hanes cymydog Ewropeaidd yn ogystal ag archwilio’r cyfleoedd addysgol o fewn Bosnia a Herzegovina. Arweiniodd y cynadleddwyr ar yr ymweliad i gwestiynu i ba raddau y mae ein cwricwlwm ein hunain yn adlewyrchu’r hyn a ddigwyddodd i’n cymdogion Ewropeaidd, ac i ystyried datblygu cysylltiadau i gefnogi cenedl sy’n gwella ar ôl hil-laddiad.
Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o’r hanes Ewropeaidd diweddar hwn, mae’r ymweliad hefyd wedi arwain at y datblygiadau canlynol yn CAVC:
-
Ymweliad arfaethedig gan ddysgwyr â myfyrwyr Bosnia for Art a Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru;
-
Mwy o ymgysylltu â Chofio Srebrenica Cymru;
-
Datblygu cwricwlwm newydd o fewn y Metaverse Gwrth-Hiliaeth.
Gwybodaeth Bellach
Dysgwch fwy am ColegauCymru Rhyngwladol ar ein gwefan, neu cysylltwch â:
Siân Holleran
Rheolwr Prosiect Ewropeaidd a Rhyngwladol
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk
Vicky Thomas
Swyddog Prosiect Ewropeaidd a Rhyngwladol
Vicky.Thomas@ColegauCymru.ac.uk