Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dyraniad ychwanegol o £10 miliwn yn ystod y flwyddyn i gefnogi’r sector addysg bellach eleni.
Dywedodd David Hagendyk, Prif Weithredwr ColegauCymru,
“Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth Cymru. Eleni mae colegau yng Nghymru wedi gweld cynnydd sylweddol yn y cofrestriadau, a bydd y cyllid hwn yn helpu i gefnogi ein holl ddysgwyr, beth bynnag yw eu cefndir. Yn ogystal â darparu profiad dysgu o ansawdd uchel, mae colegau hefyd yn cynnig amrywiaeth o gymorth i ddysgwyr, gan gynnwys iechyd meddwl a lles, a chymorth gyda chostau teithio. Bydd y cyllid ychwanegol eleni yn sicrhau bod colegau yn y sefyllfa orau i gefnogi pob dysgwr i gyflawni ei botensial. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i barhau i gefnogi’r sector gyda phecyn cyllid cynaliadwy, gan gynnwys yn y Gyllideb Ddrafft yr wythnos nesaf. Mae sector colegau a phrentisiaethau cryf yn hanfodol i sicrhau Cymru gryfach, wyrddach a thecach.”
Gwybodaeth Bellach
Datganiad Cabinet Llywodraeth Cymru
Datganiad Ysgrifenedig: Cymorth ariannol i fyfyrwyr addysg uwch ym mlwyddyn academaidd 2025/26 a therfynau ffioedd dysgu
4 Rhagfyr 2024
Rachel Cable, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk