Bydd toriadau i'r rhaglen brentisiaethau yn tanseilio’r cenhadaeth economaidd newydd ac yn lleihau'r gronfa o dalent sydd ar gael i gyflogwyr

Llangefni - Joinery (4).jpg

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Cenhadaeth Economaidd newydd, gyda phwyslais ar gefnogi sectorau allweddol i dyfu a blaenoriaethu pobl ifanc. Ar yr un pryd rydym yn disgwyl i doriadau sylweddol gael eu gwneud i’r rhaglen brentisiaethau blaengar, a fydd yn amharu ar gyfleoedd i filoedd o bobl ifanc ledled Cymru ac yn peryglu buddsoddiad busnes newydd. 

Mae dadansoddiad cychwynnol yn nodi:

  • Cyfanswm y toriad i’r rhaglen brentisiaeth fydd 24.5%. Mae hyn yn gyfuniad o doriad o 3.65% i'r gyllideb a cholli arian Ewropeaidd blaenorol.
  • Efallai y bydd effaith y toriadau arfaethedig hyn yn arwain at tua 10,000 yn llai o brentisiaethau yn dechrau ar raglen brentisiaethau blaengar Llywodraeth Cymru yn 2024/25.
  • Byddai’r gostyngiadau’n disgyn yn anghymesur ar bobl ifanc (16-24), y rhai yn y grwpiau economaidd-gymdeithasol isaf, a menywod. Mae’r dadansoddiad hefyd yn nodi y byddai’n debygol o olygu gostyngiad sylweddol yn nifer y dysgwyr prentisiaethau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
  • Mae adborth gan aelodau yn nodi y bydd busnesau yr effeithir arnynt yn cynnwys cwmnïau angori sydd wedi mynegi eu dymuniad i ehangu eu nifer o brentisiaethau, a bod mewnfuddsoddiad newydd yn seiliedig yn rhannol ar argaeledd prentisiaethau.

O’u hystyried ynghyd â’r gostyngiadau arfaethedig ar draws dyraniad addysg bellach (AB) rhan-amser ac i Gyfrifon Dysgu Personol, bydd y toriadau i’r gyllideb prentisiaethau yn effeithio’n uniongyrchol ar y cymorth sydd ar gael i gyflogwyr allu uwchsgilio eu gweithlu a thyfu eu busnesau.

O ystyried cyd-destun gweithredu darparwyr prentisiaethau, mae’r toriadau arfaethedig yn golygu y bydd angen iddynt flaenoriaethu eu darpariaeth yn seiliedig ar ymrwymiadau presennol i gyflogwyr. Mae’n debygol mai’r meysydd darpariaeth arbenigol, sydd wedi bod yn gostus i’w datblygu a’u cynnal, fyddai’r rhai cyntaf i gael eu lleihau, wrth i ddarparwyr geisio amddiffyn cyflogwyr craidd cyn belled ag y bo modd, y byddai llawer ohonynt yn gyflogwyr sy’n talu ardoll prentisiaethau a/neu busnesau bach a chanolig sy'n gweithredu mewn blaenoriaethau lleol, cenedlaethol a rhanbarthol. Fodd bynnag, o ystyried maint y gostyngiad, bydd yn amhosibl i ddarparwyr barhau i wasanaethu ymrwymiadau presennol a chynnig yr un lefelau o ddechreuadau newydd hefyd. Effaith y toriadau i’r gyllideb prentisiaethau a’r gostyngiadau posibl i gyllid AB, bydd busnesau yng Nghymru yn wynebu lefelau sylweddol is o gymorth ar yr union adeg y mae arnynt ei angen fwyaf.

Daw’r toriadau arfaethedig ar ben y gostyngiad diweddar o £17.5m yn y gyllideb prentisiaethau, a oedd yn gysylltiedig â diffyg canfyddedig yn y galw am brentisiaethau gan gyflogwyr. Yn syml, nid yw hyn yn wir. Mewn gwirionedd, ni fu unrhyw ostyngiad yn y galw am ddechrau prentisiaethau newydd, gyda data a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos cynnydd yn nifer y prentisiaethau a ddechreuwyd yn hanner cyntaf 2022/23, o gymharu â’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Y rhesymau dros danwariant y rhaglen yn 2022/23, oedd etifeddiaeth y Pandemig, penderfyniadau busnes oherwydd Brexit a phwysau chwyddiant ac effeithiau newidiadau yn y systemau cymwysterau - adeiladu a'r amgylchedd adeiledig yn bennaf, a'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, y ddau sydd yn tynnu'n drwm ar y gyllideb prentisiaethau. Yn fyr, nid oes diffyg galw gan gyflogwyr am brentisiaethau ac nid nawr yw’r amser i leihau cyllid hyd yn oed ymhellach.

Mewn gwirionedd, rydym yn disgwyl cynnydd sylweddol yn y galw gan gyflogwyr yn 2023/24 sydd, pe gallem ei gefnogi, yn adlewyrchu’n dda ar y rhagolygon ar gyfer economi Cymru. Roedd gwerthusiad gan Lywodraeth Cymru yn 2021 yn tanlinellu rôl hollbwysig prentisiaethau o ran meithrin twf economaidd a’u heffaith gadarnhaol o ran “codi lefelau sgiliau pobl sydd â sgiliau isel neu ddim sgiliau o gwbl a chynyddu nifer y bobl yn y gweithlu sydd â sgiliau yn benodol i'r swydd.” Dangosodd adroddiad diweddar gan berchennog Screwfix a B&Q, Kingfisher Plc, fod y DU ar fin colli allan ar £98biliwn o dwf erbyn 2030 oherwydd prinder masnachwyr.

O ystyried lansiad ‘Cenhadaeth Economaidd’ newydd Llywodraeth Cymru a gwaith parhaus Llywodraeth Cymru i gytuno ar gyllideb newydd, mae cyfnod byr o gyfle i gyflwyno’r achos dros brentisiaethau ac i sicrhau nad yw difrod trychinebus ac anwrthdroadwy yn cael ei wneud i’r rhaglen brentisiaethau yng Nghymru. Mae’r rhaglen brentisiaeth yn cael ei gweld yn gywir fel trysor yng nghoron y cymorth sydd ar gael i gyflogwyr. Mae Llywodraeth Cymru, colegau a darparwyr hyfforddiant, a chyflogwyr wedi gweithio’n galed am fwy na degawd i’w wneud yn llwyddiant heddiw. Bydd torri chwarter y gyllideb yn tanseilio’r holl waith hwnnw. Mae cynigion Llywodraeth Cymru yn doriadau anghywir ar yr amser anghywir. Ni ellir caniatáu iddynt fynd ymlaen.

Nid yw sgiliau ac addysg bellach yn ‘neis i’w cael’ – maent yn sylfaenol i’n hadferiad economaidd. Nawr yw'r amser i fuddsoddi yn ein dysgwyr a'n gweithwyr. Mae denu mewnfuddsoddiad a chefnogi cwmnïau angori allweddol yn dibynnu ar fuddsoddi mewn sgiliau.

Ynghyd ag NTfW, mae ColegauCymru yn galw am fynd i’r afael ar frys â’r toriadau arfaethedig i’r rhaglen brentisiaethau.

Bydd effaith gronnus y toriadau arfaethedig i brentisiaethau a’r gyllideb AB yn arwain at golli cenhedlaeth o bobl ifanc a fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar ein cymunedau.

Mae ein sefydliadau addysg bellach a’u cysylltiadau cryf â chyflogwyr a diwydiant yn allweddol i adferiad economaidd sydd yn ei dro yn hanfodol i helpu i gefnogi nod uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o Gymru gryfach, wyrddach a thecach.

Gwybodaeth Bellach 

Rachel Cable, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus 
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.