Ymateb Ymgynghoriad
Llywodraeth y DU
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: 24 Tachwedd 2024
Y strategaeth ddiwydiannol yw cynllun 10 mlynedd arfaethedig llywodraeth y DU ar gyfer yr economi. Ei nod yw darparu’r sicrwydd a’r sefydlogrwydd sydd eu hangen ar fusnesau i fuddsoddi yn y sectorau twf uchel ac ysgogi twf economaidd hirdymor. Bydd y strategaeth ddiwydiannol derfynol yn cael ei chyhoeddi yng ngwanwyn 2025, ochr yn ochr â’r adolygiad o wariant aml-flwyddyn.
Yn ein cyflwyniad, fe wnaethom bwysleisio’r angen i flaenoriaethu is-sectorau sy’n hyrwyddo nodau Net Sero, yn cefnogi twf rhanbarthol, ac yn sicrhau cadernid economaidd. Fe wnaethom amlygu rôl Addysg Bellach yng Nghymru o ran bodloni gofynion y diwydiant trwy ddarparu llwybrau dysgu amrywiol, gan gynnwys prentisiaethau a chymwysterau lefel uwch. Roedd ein hymateb yn galw am gydweithio rhwng llywodraethau’r DU a Chymru, buddsoddiad parhaus mewn datblygu sgiliau, a mynd i’r afael â’r toriadau yn y gyllideb yn y rhaglen brentisiaethau. Pwysleisiwyd pwysigrwydd partneriaethau diwydiant, arloesi, a llwybrau dysgu hyblyg i baratoi gweithlu medrus ar gyfer heriau economaidd yn y dyfodol, gan eiriol dros ddull cydgysylltiedig o ysgogi cynhyrchiant a thwf.
Gwybodaeth Bellach
Clare Williams, Swyddog Polisi
Clare.Williams@ColegauCymru.ac.uk