Cynllun Strategol 2025 - 2030

pexels-cottonbro-6344238.jpg

Ymateb Ymgynghoriad

Medr

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: 25 Hydref 2024 

Mae Cynllun Strategol drafft Medr 2025-2030 yn nodi ei ymateb arfaethedig i ddatganiad Llywodraeth Cymru o flaenoriaethau strategol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil ac arloesi. Mae'n amlinellu nodau ac ymrwymiadau strategol arfaethedig, ac yn disgrifio'r ffordd y mae Medr eisiau gweithio i'w cyflawni.

Ar lefel uchel, mae Cynllun Strategol Medr yn adlewyrchu'r pum blaenoriaeth a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ond ar hyn o bryd nid oes digon o fanylion wedi'u hamlinellu i ddeall i ba raddau y cânt eu hadlewyrchu ar lefel weithredol. Mae ColegauCymru yn pryderu ei bod yn ymddangos nad oes unrhyw gydnabyddiaeth y bydd yr ymrwymiad i roi’r dysgwr wrth galon y system yn gofyn am benderfyniadau anodd ynglŷn â strwythur addysg drydyddol.

Gwybodaeth Bellach

Clare Williams, Swyddog Polisi 
Clare.Williams@ColegauCymru.ac.uk  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.