Mae ColegauCymru wedi cyhoeddi adroddiad sy’n nodi effaith gwaith Grŵp Trawsbleidiol Addysg Bellach a Sgiliau y Senedd yn 2023/24, gan edrych ymlaen at y dyfodol.
Yn 2023/24, cynhaliodd y Grŵp Trawsbleidiol cyfarfod ar y cyd â’r Grŵp ar gyfer Prifysgolion. Roedd y cyfarfod hwn y cyntaf o’i fath ac yn gam gwerthfawr yn ein taith tuag at sector trydyddol cyn lansio Medr ar 1 Awst 2024. Dilynwyd hyn gan lansiad yr adroddiad Dangos Gwerth Cymdeithasol Colegau Addysg Bellach yng Nghymru yn ystod Cyfarfod Grŵp Trawsbleidiol ym mis Ebrill 2024, gyda phresenoldeb a chyfraniad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS.
Dywedodd John Griffiths AS, Cadeirydd y Grŵp,
“Mae’r grŵp trawsbleidiol wedi bod yn llwyfan pwysig i gysylltu gwleidyddion yn well â’r rhai sy’n gweithio mewn Addysg Bellach ledled Cymru. Ar ôl elwa ar addysg bellach fy hun yng Nghasnewydd, rwy’n gwerthfawrogi ac yn cydnabod y cyfleoedd y gall eu rhoi i unigolyn am ail gyfle mewn bywyd.
Dros y 12 mis diwethaf, rwyf wedi bod yn falch iawn o gadeirio’r Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer Addysg Bellach a Sgiliau a gweithio gyda thîm ColegauCymru.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,
“Mae tîm ColegauCymru a minnau’n edrych ymlaen at adeiladu ar lwyddiant y Grŵp Trawsbleidiol dros y flwyddyn academaidd nesaf, a fydd yn gyfnod o newid sylweddol i’r sector trydyddol wrth i ni drosglwyddo i Medr.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’n Cadeirydd, John Griffiths AS, am ei waith gyda’r Grŵp dros y saith mlynedd diwethaf. Mae’n galonogol gwybod bod gennym gefnogaeth barhaus o’r fath gan Aelod o’r Senedd sydd wedi manteisio o addysg bellach yn uniongyrchol ac sy’n deall y manteision y mae’n eu darparu i ddysgwyr a’u bywydau.”
Edrych ymlaen at 2024/25
Bydd symud i Medr yn dod â heriau a chyfleoedd i’r sector, ac rydym yn gweithio’n rhagweithiol gyda’u huwch dîm arwain a Llywodraeth Cymru i sicrhau pontio llyfn ac effeithlon i’r holl sefydliadau dan sylw. Rydym yn glir bod yn rhaid i Medr sicrhau bod dysgwyr wrth galon sector ôl-16 diwygiedig, a’u bod yn barod i weithio gyda nhw i gefnogi’r nod hwn. Byddwn yn parhau i ddefnyddio’r Grŵp Trawsbleidiol fel mecanwaith gwerthfawr i amlygu’r ddau faes ar gyfer dathlu yn ogystal â datblygu ar draws y sector.
Gwybodaeth Bellach
Adroddiad Blynyddol Grŵp Trawsbleidiol Addysg Bellach a Sgiliau y Senedd
Haf 2024
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Rachel Cable, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk