Cynhadledd Flynyddol ColegauCymru 2023
Mae ColegauCymru yn falch iawn o gyhoeddi dychweliad ein Cynhadledd Flynyddol a gynhelir yfory yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd.
Gydag agenda orlawn, mae’r Gynhadledd yn addo dod â rhanddeiliaid allweddol, addysgwyr ac arweinwyr diwydiant, o bob rhan o Gymru a thu hwnt, ynghyd i ddangos gwerth addysg bellach. Byddwn yn myfyrio ar yr hyn a ddysgwyd o gyfnod heriol ond byddwn hefyd yn edrych i’r dyfodol, gan archwilio cylch gwaith cynlluniau Llywodraeth Cymru i ailwampio’r ffordd y caiff addysg ôl-16 ei llywodraethu a’i darparu yng Nghymru, yn unol â’u cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Cymru gryfach, wyrddach a thecach.
Prif Anerchiad
Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg yn traddodi ein prif anerchiad. Penodwyd Jeremy Miles AS yn Weinidog yn 2021, ac mae ganddo bortffolio eang sy’n cwmpasu addysg bellach, addysg drydyddol gan gynnwys diwygio ôl-16, y Gymraeg, a hyfforddiant a datblygiad y gweithlu addysg.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi City & Guilds fel Prif Noddwyr y Gynhadledd.
Bydd y Gynhadledd hefyd yn cynnwys siaradwyr a fydd yn edrych ar ystod o heriau a chyfleoedd sy'n wynebu'r sector yn y tymor byr i ganolig.
- Simon Pirotte, Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
- Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru
- Orla Tarn, UCM Cymru
- Gwyneth Sweatman, Ffederasiwn Busnesau Bach
- Yr Athro Richard Wyn Jones, Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd
- Siân Cartwright, TUC Cymru
- Louise Warde Hunter, Coleg Metropolitan Belfast
- Angharad Lloyd Beynon, City & Guilds
Noddwyr y Gynhadledd
Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth ein noddwyr sy’n cynnwys:
City & Guilds, Taith, Addysgwyr Cymru, Cyngor y Gweithlu Addysg, Agored Cymru, Education & Training Foundation, Sefydliad Dysgu a Gwaith, Jisc, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Challenges Abroad, Pearson, CBAC, CREATE Education, Aspire 2Be, Urdd Gobaith Cymru, Estyn, Chwarae Teg ac EAL.
Sesiynau Gweithdy
Bydd y Gynhadledd yn ein gweld yn cynnal nifer o sesiynau grŵp mewn meysydd gan gynnwys:
- Edrych tuag at Gymru Wrth-hiliol 2030
- Adeiladu Strategaeth VET i Gymru
- Llunio dyfodol dwyieithog i addysg bellach
- Llywio cyfleoedd a heriau AI mewn colegau
- Sut y gall ymweliadau a phartneriaethau rhyngwladol wella a chyfoethogi dysgu ac addysgu ar draws y sector
- Lles Actif mewn addysg bellach: Colegau Actif - Bywydau Actif - Cymru Actif
- Mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn addysg bellach
- Dyfodol Newydd Cymru: Cefnogi menywod i fyd technoleg
Bydd y diwrnod hefyd yn rhoi digon o gyfle i gynrychiolwyr ymweld â'n hardaloedd arddangos i rwydweithio a meithrin perthnasoedd.
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i gyd i’r hyn sy’n argoeli i fod yn ddigwyddiad diddorol ac addysgiadol
Gwybodaeth Bellach
Amy Evans, Amy.Evans@ColegauCymru.ac.uk
Rachel Rimanti, Rachel.Rimanti@ColegauCymru.ac.uk