Gyda blwyddyn lwyddiannus arall o gynllun Cymraeg Gwaith yn dod i ben, mae ColegauCymru yn falch o gyhoeddi unwaith eto enillwyr yn y Gwobrau Cenedlaethol blynyddol.
Derbyniwyd dros 60 cais arbennig gyda dau aelod o staff o’r sector addysg bellach yn dod i’r brig! Enillodd Robert Easton o Grŵp Llandrillo Menai Dysgwr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn ar gyfer Lefel Mynediad gyda Fiona Henneh o Goleg y Cymoedd yn cipio’r wobr ar gyfer Lefel Sylfaen.
Dywedodd Tiwtor Cymraeg Gwaith Grŵp Llandrillo Menai Siân Pritchard,
“Mae Rob wedi dangos ymrwymiad gwirioneddol i’w ddysgu, gan fanteisio ar bob cyfle a roddwyd iddo dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Cofleidiodd hefyd gynllun mentora Sgiliaith sydd wedi cefnogi ei ddysgu ymhellach. Rwy'n falch iawn bod Robert bellach yn Bencampwr y Gymraeg i'w adran. Da iawn ti!”
Ychwanegodd Cydlynydd Cynllun Cymraeg Gwaith ar gyfer Addysg Bellach Nia Brodrick,
“Llongyfarchiadau gwresog i Robert a Fiona. Maent wedi ymrwymo’n lawn i’r cynllun Cymraeg Gwaith ac mae eu brwdfrydedd yn amlwg wrth ddefnyddio eu sgiliau newydd gyda dysgwyr o fewn eu colegau. Dymunwn bob llwyddiant i’r ddau wrth iddynt barhau ar eu taith ddysgu.”
Nod prosiect Cymraeg Gwaith yw datblygu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Yn ystod y flwyddyn mae hyd at 700 staff o’r sectorau Addysg Bellach ac Addysg Uwch ar draws Cymru wedi cael y cyfle i ddysgu Cymraeg o dan law’r cynllun.
Gwybodaeth Bellach
Os hoffech chi ymuno gyda’r cynllun Cymraeg Gwaith yn eich coleg chi, cysylltwch gyda Adnoddau Dynol, Rheolwr y Gymraeg neu danfonwch e-bost at gydlynydd y cynllun, Nia Brodrick.