Yn ein Cynhadledd Flynyddol ddiweddar, roeddem yn falch iawn o gael cwmni Sarah Evans o Gwmpas, a arweiniodd, ar ran ColegauCymru, brosiect ymchwil i sefydlu gwerth cymdeithasol addysg bellach yng Nghymru. Ar ôl hwyluso gweithdy ar werth cymdeithasol yn y Gynhadledd, dyma hi’n rhannu ei mewnwelediad ar y rôl y gall gwerth cymdeithasol ei chwarae yn y sector yn y dyfodol a sut y gallai’r 10 mlynedd nesaf edrych am addysg bellach.
Roeddwn am ysgrifennu’r blog hwn i fyfyrio ar y gweithdy ar y cyd a hwyluswyd gan ColegauCymru a Cwmpas yng Nghynhadledd Flynyddol ColegauCymru yn ddiweddar. Ffocws y Gynhadledd eleni oedd Addysg 5.0: Dyfodol Addysg Bellach yng Nghymru; a phwrpas ein gweithdy oedd trafod y rôl y gall gwerth cymdeithasol ei chwarae yn y sector yn y dyfodol, yn enwedig o ran dangos effaith gyfannol colegau addysg bellach o fewn Cymru.
Y prif beth ddysgais i o’r gweithdy oedd bod gwerth cymdeithasol yn dod yn fwy amlwg yn y sector, gan y gall ddarparu fframwaith cynhwysfawr i ddangos effaith gyfannol, yn enwedig mewn cyfnod ariannol heriol.
Soniwyd am yr effaith ehangach hon gan y Gweinidog dros Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells AS, a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker, y ddau wedi tynnu sylw at enghreifftiau o’r adroddiad “Dangos Gwerth Cymdeithasol Colegau Addysg Bellach yng Nghymru” a ysgrifennwyd gan Cwmpas a CLES yn gynharach eleni, i bwysleisio gwerth ac effaith y sector.
Yr hyn a ailadroddwyd hefyd yn ein trafodaethau gweithdy oedd bod gwerth cymdeithasol o fewn DNA’r sector addysg bellach yng Nghymru. Roedd y ddadl hefyd yn ailddatgan canfyddiadau ein hymchwil yn ymwneud ag elfennau craidd gwerth cymdeithasol o fewn y sector addysg bellach, sef:
- Mabwysiadu dull ‘Canolbwyntio ar Bobl’ gyda dysgwyr a staff yn greiddiol;
- Cydweithio â busnesau lleol a Chyrff Sector Cyhoeddus;
- Gweithio'n agos gyda chymunedau lleol; a
- Rôl colegau addysg bellach fel sefydliadau angori sy'n llywio eu heconomïau lleol.
Soniodd cyfranogwyr y gweithdai am rôl data wrth ddangos gwerth cymdeithasol a chafwyd consensws bod casglu data, ar lefel leol a chenedlaethol, yn allweddol i ddangos elfen rifiadol gwerth cymdeithasol, fodd bynnag, nid yw data yn unig yn cyfleu’r stori lawn. Pwysleisiodd y cyfranogwyr bwysigrwydd astudiaethau achos, sy'n canolbwyntio ar unigolion ac yn adrodd straeon sy'n newid bywydau; na fyddai'n cael gwybod, trwy ddata’n unig.
Roedd yn ddiddorol clywed arweinwyr y sector yn trafod sut mae cyllidwyr yn mesur canlyniadau ac effeithiau ar hyn o bryd, a sut mae’n ymddangos bod diffyg cysylltiad rhwng y casglu data sydd ei angen ar gyfer cyllid sector a’r data y byddai eu hangen i ddangos y gwerth cymdeithasol y mae’r sector yn ei greu.
Wrth i Medr gael ei sefydlu, cydnabu'r cyfranogwyr bwysigrwydd arddangos y gwerth cyfannol y mae'r sector addysg bellach yn ei greu yn lleol ac yn genedlaethol. Mae’n rhaid i mi ddweud serch hynny fy mod yn siomedig i beidio â gweld gwerth cymdeithasol yn cael ei grybwyll yn benodol yng nghynllun strategol drafft Medr: gobeithio y bydd hyn yn newid pan fydd y Comisiwn yn adolygu’r ymatebion i’r ymgynghoriad diweddar.
Wrth edrych i'r dyfodol cydnabuwyd bod gwaith i'w wneud o hyd. Rwy'n meddwl bod yr argymhellion o'n hadroddiad cynharach yn dal yn berthnasol ac yn cynnig map ffordd ar gyfer datblygu. Roedd yr argymhellion yn canolbwyntio ar y prif feysydd canlynol:
Rôl eiriolaeth ColegauCymru wrth ddod â negeseuon gwerth cymdeithasol cydlynol ar gyfer y Sector at ei gilydd. Dylai’r rôl hon gynnwys alinio gwerth cymdeithasol â ysgogwyr deddfwriaethol a pholisi allweddol, , yn ogystal ag amcanion strategol Medr. Yn y gweithdy buom hefyd yn siarad am rôl ColegauCymru yn eiriol dros y sector ar lefel Weinidogol, gan gydnabod bod gweithgareddau ac effeithiau’r sector addysg bellach yn eistedd ar draws portffolios Gweinidogol lluosog.
Mae rôl hefyd i ColegauCymru ddatblygu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o werth cymdeithasol ar lefel aelodau. Gallai gweithgareddau gynnwys hyfforddiant codi ymwybyddiaeth/gwerth cymdeithasol a rhannu gwybodaeth drwy rwydwaith ‘cymuned ymarfer’ gwerth cymdeithasol.
Er mwyn symud ymlaen, fodd bynnag, credaf y gall ColegauCymru arwain y gwaith o ddatblygu dull ffurfiol o adrodd ar werth cymdeithasol. Gallai hyn gynnwys:
- Nodi canlyniadau a dangosyddion gwerth cymdeithasol allweddol, y gellir eu haddasu/datblygu'n lleol i gynrychioli gweithgareddau coleg unigol
- Tracio cynnydd
- Cefnogi datblygiad parhaus astudiaethau achos ansoddol
- Adroddiadau gwerth cymdeithasol blynyddol ar lefel coleg unigol a chenedlaethol
Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda thîm ColegauCymru yn fawr dros y flwyddyn ddiwethaf a gobeithio y gall Cwmpas a CLES fod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu ymhellach ddealltwriaeth ac adrodd ar werth cymdeithasol o fewn y sector Addysg Bellach yng Nghymru: wrth i’r sector barhau i dyfu ei effaith a’i siâp. ein heconomïau lleol a chenedlaethol.
Adroddiad Ymchwil ColegauCymru
Dangos Gwerth Cymdeithasol Colegau Addysg Bellach yng Nghymru
Ebrill 2024