Mae ColegauCymru wedi cynnal adolygiad cynhwysfawr o fodel Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (VET) y Ffindir er mwyn nodi gwersi i Gymru. Wedi'i osod yng nghyd-destun Adolygiad Cymwysterau Galwedigaethol Llywodraeth Cymru a sefydliad Medr, y nod oedd nodi mewnwelediadau ymarferol a allai wella darpariaeth VET. Sicrhaodd cyllid Taith Llwybr 2 ein gallu i gydweithredu â phartneriaid yn y Ffindir, AMKE, - Cymdeithas y Ffindir ar gyfer Datblygu Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol.
Mae system VET y Ffindir wedi ennill cydnabyddiaeth fyd-eang am ei dull arloesol a'i safonau uchel. Ers 2017, mae'r Ffindir wedi mynd trwy ddiwygiadau addysgol sylweddol gyda'r nod o greu system VET hyblyg sy'n gallu ymateb i heriau byd-eang, gan gynnwys poblogaeth sy’n heneiddio, gweithleoedd sy'n datblygu'n gyflym, ac effaith technoleg ar gymdeithas. Wrth i Gymru ddelio â materion tebyg, mae'r Ffindir yn cynnig dysgu ac ysbrydoliaeth.
Prif Wersi o'r Ffindir
Trwy ddadansoddiad cymharol, cynhyrchodd y prosiect chwe argymhelliad lefel uchel a allai drawsnewid addysg alwedigaethol yng Nghymru:
- Datblygu Strategaeth Genedlaethol ar gyfer VET Mae strategaeth gydlynol yn hanfodol i gyfleu dyheadau Cymru ar gyfer addysg alwedigaethol. Bydd yn helpu i nodi blaenoriaethau ac egluro rolau colegau wrth gyflawni’r nodau hyn.
- Gweithredu Cynllunio Rhagfynegi Sgiliau Cenedlaethol Mae dibyniaeth y Ffindir ar ddata cywir, amserol ar gyfer cynllunio yn sicrhau bod VET yn diwallu anghenion newidiol y farchnad lafur. Dylai Cymru fabwysiadu dull tebyg i oresgyn anghysondebau rhanbarthol a symleiddio darpariaethau VET.
- Creu Dulliau Ariannu Hyblyg Gall system ariannu bresennol Cymru rwystro darparwyr VET. Bydd datblygu modelau ariannu sy’n caniatáu hyblygrwydd ac addasrwydd yn grymuso colegau i ddiwallu anghenion lleol yn fwy effeithiol.
- Archwilio System Pwyntiau Cymhwysedd Ymgysylltu â'r sector VET i asesu ymarferoldeb system pwyntiau cymhwysedd a allai wella cydnabyddiaeth o sgiliau a enillir trwy brofiad gwaith a dysgu blaenorol.
- Cynllunio Galwedigaethol wedi'i Bersonoli Dylai Gyrfa Cymru gydweithio â darparwyr VET i ddatblygu systemau cynllunio galwedigaethol wedi’u teilwra sy’n cefnogi dysgwyr o bob oed i lywio eu llwybrau addysgol a gyrfaol.
- Blaenoriaethu Dysgu Proffesiynol Bydd ffocws ar ddatblygiad proffesiynol parhaus i addysgwyr VET yn sicrhau eu bod yn parhau ar flaen y gad mewn rhagoriaeth alwedigaethol.
Galw am Weithredu
Mae model y Ffindir yn tanlinellu pwysigrwydd cydlyniad ac ystwythder o fewn y system VET, a nodweddir gan lywodraethu cadarn, methodolegau ariannu, a hyder ymhlith partneriaid. Mae dull y Ffindir yn cynnwys cynllunio strategol hirdymor sy’n ystyried yr amgylchedd gweithredu unigryw o fewn VET. Yng Nghymru, mae angen strategaeth debyg - ar gyfer dysgwyr, cyflogwyr, ac i osod Cymru fel arweinydd byd-eang mewn addysg alwedigaethol.
Amlygodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk, werth sylweddol y prosiect hwn:
Trwy ddysgu o lwyddiant y Ffindir, mae gan Gymru gyfle i greu system VET fwy effeithiol, hyblyg ac ymatebol. Nid mater o bolisi yn unig yw hyn; mae'n ymwneud â chyflawni canlyniadau ystyrlon i ddysgwyr a diwallu anghenion marchnad swyddi sy'n newid yn gyflym. Mae'r darn o wait hwn yn amserol wrth ein hatgoffa mai'r argymhelliad uchaf o Adolygiad Cymwysterau Galwedigaethol Llywodraeth Cymru yn 2023 oedd strategaeth genedlaethol ar gyfer VET. Mae’r strategaeth hon yn fater o frys. Ni fydd unrhyw beth llai yn ddigonol i gydlynu’r holl ‘ddarnau symudol’ o fewn system VET Cymru, lle nad yw un asiantaeth yn gweithredu ar ei phen ei hun. Bydd y strategaeth yn rhoi cyfle inni gyfleu’n glir uchelgeisiau Cymru ar gyfer yr hyn y gall addysg a hyfforddiant galwedigaethol ei gyflawni i Gymru. Nawr yw’r amser ar gyfer gweithredu ystyrlon i gyflawni’r ateb sydd ei angen gan ddysgwyr a chyflogwyr fel ei gilydd.
Gwybodaeth Bellach
Strategaethau ar gyfer Symud yn Rhydd – Ymagwedd y Ffindir at Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol
Hydref 2024
Adroddiad Llywodraeth Cymru
Adolygiad o gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru: adroddiad
11 Medi 2023
Rachel Cable, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus
Rachel.Cable@colegaucymru.ac.uk